RHAID BLAENORIAETHU POBL ANABL WRTH GYNLLUNIO TREFI

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi ceisio eglurder gan lywodraeth Cymru ar sut mae anghenion mynediad pobl anabl a’r rhai sydd â phroblemau symudedd yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio trefol. 

Cododd Mr ap Gwynfor y mater yn y Senedd yn dilyn taith o amgylch Pwllheli gyda defnyddwraig cadair olwyn, Katalina Harper, i weld drosto’i hun yr heriau sylweddol a wynebir gan bobl â phroblemau symudedd wrth geisio canfod eu ffordd ar hyd strydoedd a phalmentydd y dref. 
Ymunodd yr Aelod Seneddol lleol Liz Saville Roberts a'r Cynghorydd Sir lleol, Elin Hywel ar y daith. 
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Ges i'r fraint o fynd o amgylch Pwllheli yn ddiweddar iawn efo Katalina Harper. Mae Katalina yn gaeth i gadair olwyn, ac felly, mae'n anodd iawn iddi hi deithio o amgylch y dref, neu yn wir unrhyw dref. Wrth iddi fynd o amgylch corneli weithiau, oherwydd natur y palmant, mae'r gadair olwyn yn tipio drosodd neu mae'r palmentydd yn mynd yn gul iawn sy'n golygu ei bod hi'n methu â chyrraedd gwasanaethau hanfodol, methu â mynd i siopa. Weithiau pan ei bod hi eisiau mynd ar fws, dydy'r palmentydd ddim wedi cael eu codi ar lefel i gyrraedd mynediad y bws yna, a llwyth o broblemau eraill. Un enghraifft yn unig ydy Katalina Harper ym Mhwlleli - mae hyn yn wir am fywyd sawl person efo anabledd neu draferth symudedd mewn cymunedau ar draws Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni edrych i sicrhau, wrth gynllunio gofodol wrth ddatblygu cynlluniau trefol eu bod nhw'n addas ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn neu efo trafferth symudedd. Pa gynlluniau ydych chi am roi ar y gweill i sicrhau fod llywodraethau lleol yn mynd i gymryd i ystyriaeth anghenion pobl fel Catalina wrth ddatblygu cynlluniau trefol?
Ychwanegodd y Cynghorydd Elin Hywel:
Roeddwn yn falch iawn o gael y fraint o gael teithio o amgylch Pwllheli gyda Katalina. Hoffwn ddiolch o waelod calon iddi hi a’i phartner am roi eu hamser er mwyn rhoi y cyfle i ni rannu eu profiadau a cael dealltwriaeth o wir sialensau teithio o amgylch y dref mewn cadair olwyn. Mae gwaith i wneud i sicrhau bod pob un o drigolion ein tref yn gallu hawlio eu hannibyniaeth. Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda Liz a Mabon i yrru ymlaen i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-23 16:19:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.