Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor yn dweud y byddai pwll nofio maint Olympaidd wedi’i leoli yn y gogledd yn galluogi’r genhedlaeth nesaf o dalent nofio Cymru i hyfforddi yn nes at adref.
Wrth dalu teyrnged i’r nofiwr o Borthmadog Medi Harris a fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni, dywedodd Mr ap Gwynfor y byddai pwll o faint Olympaidd yn y gogledd yn galluogi nofwyr newydd i gyflawni eu potensial. tra'n darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi i'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd Mr ap Gwynfor fod nofwyr elitaidd o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru dan anfantais amlwg o ran cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi o ystyried mai dim ond yng Nghaerdydd ac Abertawe mae pyllau nofio maint Olympaidd Cymru, gyda llawer o ogledd Cymru yn teithio dros y ffin i Lerpwl neu Fanceinion i hyfforddi a chystadlu.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Dylai nofio ac yn wir yr holl chwaraeon dyfrol fod ar gael i bawb, lle bynnag y maent yn byw ledled Cymru. Mae’n hanfodol bod buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon a thalent chwaraeon newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ledled Cymru. Fel y mae, rhaid i nofwyr o ogledd Cymru deithio i'r de i Gaerdydd neu Abertawe neu dros y ffin i Lerpwl neu Fanceinion i hyfforddi mewn pyllau 50m maint Olympaidd. Mae hyn yn rhoi pwysau gormodol ar nofwyr, yn enwedig yn y cyfnod cyn cystadlaethau neu ddigwyddiadau, heb sôn am y baich ychwanegol o deithio i'r lleoliadau hyn ac oddi yno. Mae meddwl am orfod teithio hyd at bum awr i hyfforddi yn ddigon i atal rhai pobl rhag dilyn eu huchelgeisiau. Mae llwyddiant nofwyr elitaidd fel Medi Harris o Borth y Gest, Porthmadog yn dangos y potensial o fewn ein cymunedau, ond faint yn fwy o nofwyr allai ddod yn athletwyr elitaidd pe bai ganddynt fynediad i gyfleusterau hyfforddi yn nes adref. Mae'n hen bryd sefydlu pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru. Mae nofwyr elitaidd a rhai sy’n cychwyn ar eu hyfforddiant ac sy'n byw ar draws gogledd Cymru yn haeddu mynediad i'r cyfleusterau hyfforddi mwyaf addas ar gyfer eu camp. Dylid rhoi pob cyfle i’n talent cynhenid gyflawni eu potensial ac ni ddylid rhoi rhwystrau yn eu ffordd i ddilyn eu huchelgeisiau oherwydd diffyg mynediad at gyfleusterau hyfforddi. Galwaf felly ar lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid yn y gogledd i archwilio sut y gellir cyflawni hyn.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter