LIZ YN PLEIDLEISIO YN ERBYN TORRI TALIAD TANWYDD

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi annog ASau Llafur Cymru i gefnogi Plaid Cymru a phleidleisio yn erbyn torri’r Taliad Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr y gaeaf hwn.

Wrth siarad cyn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, rhybuddiodd Mrs Saville Roberts y llywodraeth Lafur rhag gwthio pensiynwyr yn ddyfnach i dlodi tanwydd wrth i ffigyrau llywodraeth y DU ddatgelu y bydd 400,000 o gartrefi yng Nghymru ar eu colled os bydd y toriad yn cael ei weithredu. 

Bydd y toriad yn cael effaith arbennig ar bensiynwyr sydd oddi ar y grid ac yn dibynnu ar olew gwresogi. Amcangyfrifir bod 49% (30,000) o aelwydydd Gwynedd heb eu cysylltu â'r rhwydwaith nwy sy'n cyfateb i tua 62% yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd 400,000 o gartrefi yng Nghymru ar eu colled oherwydd eU cynllun i dorri’r Taliad Tanwydd Gaeaf, fel y datgelwyd mewn ymateb i gwestiynau seneddol gan Blaid Cymru. Rhaid i ASau Llafur Cymru nawr ystyried a allant wir gyfiawnhau gosod caledi mor enfawr. Ni allai neb â dealltwriaeth o gymunedau Cymru honni bod 400,000 o aelwydydd pensiynwyr Cymru yn gefnog ac yn gallu ymdopi heb y taliad hwn. Mae cyfyngu'r Taliad Tanwydd Gaeaf i'r rhai ar gredyd pensiwn yn unig yn llawer rhy gyfyngol. Yn lle hynny, gallai’r llywodraeth, er enghraifft, gynyddu’r oedran y gall pensiynwyr hawlio’r taliad, fel bod y rhai hynaf a mwyaf bregus yn parhau i gael eu cefnogi. Fel arall, gellid cynnwys y Taliad Tanwydd Gaeaf o fewn y diffiniad o incwm trethadwy. Mae Gweinidogion Llafur wedi adleisio dro ar ôl tro yn y dyddiau diwethaf bod y llywodraeth newydd yn cael ei gorfodi i wneud 'dewisiadau anodd.' Ond pam mae 'dewisiadau anodd' bob amser yn ymddangos fel pe baent yn arwain at fwy o ddiflastod i'r rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd? Y DU yw’r chweched economi fwyaf yn y byd, ac mae 165 o biliwnyddion yn y wlad. Mae'r syniad bod torri cymorth tanwydd i bensiynwyr yn anochel yn chwerthinllyd. Mae pensiynwyr yn cael eu gwthio’n ddyfnach i dlodi tanwydd, wedi’u dihangol yn annheg gan Rachel Reeves i hyrwyddo naratif o blaid cyni a fydd â chanlyniadau difrifol i bobl hŷn. Rhaid i’r ASau Llafur Cymreig hynny, a etholwyd ym mis Mehefin ar lwyfan o ‘Newid,’ ofyn i’w hunain a ydynt am fod yn rhan o barhau ag ideoleg sydd mor niweidiol i Gymru. Rhaid peidio â gorfodi pensiynwyr i ysgwyddo baich methiant economaidd San Steffan. Rwy’n annog holl ASau Llafur Cymru i bleidleisio ochr yn ochr â Phlaid Cymru ddydd Mawrth, i sicrhau bod pensiynwyr yn cael eu cefnogi drwy’r hyn a allai fod yn aeaf caled.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-09-13 16:06:05 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.