Cyfarfu Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts yn ddiweddar â dwy ddynes sy’n ymgymryd â’r hyn sy’n cael ei gydnabod fel 'her rwyfo galetaf y byd' i groesi Cefnfor yr Iwerydd mewn cwch rhwyfo.
Bydd Nia Baylis sydd yn enedigol o ardal Machynlleth ond bellach yn byw yn Aberdyfi a’i phartner rhwyfo Pammie Tyson, dinesydd o Antigua yn defnyddio’r her i godi arian ar gyfer elusen Arennau Cymru ynghyd a dwy elusen cadwraeth moroedd.
...
Mae ‘The World’s Toughest Row’, a elwid gynt yn Her Talisker Wisgi yn cychwyn o San Sebastián de la Gomera yn y Canaries ym mis Rhagfyr ac yn gorffen yn Antigua yn y Caribî - pellter o dair mil o filltiroedd. Mae timau'n rasio naill ai ar ben ei hunain, mewn parau, triawdau mewn criw o bedwar neu fesul pump, gan geisio croesi'r Iwerydd trwy ddilyn llwybr Columbus ganrifoedd ynghynt.
...
Gall y daith gymryd rhwng tri deg pump a naw deg chwe diwrnod gyda chystadleuwyr yn brwydro yn erbyn tonnau ugain troedfedd o uchder, diffyg cwsg, ac amrywiaeth o eithafion corfforol a meddyliol.
...
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
...
Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Nia a Pammie, dwy ferch ybrydoliedig sy’n ymgymryd â’r her o groesi Môr yr Iwerydd mewn cwch rhwyfo, tra’n codi arian at dri achos teilwng iawn, gan gynnwys Arennau Cymru. Mae’r her o groesi’r Iwerydd yn dod â cyfres o heriau unigryw a brawychus yn ei sgil ac mae’n brawf gwirioneddol o ddygnwch, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae gennyf barch mawr at Nia a Pammie a hwythau yn cychwyn ar y gamp epig hon. Rwyf yn falch iawn y bydd Nia yn chwifio’r faner dros Aberdyfi a thros Gymru wrth i’r ddwy ymuno â thimau o bedwar ban byd wrth iddynt ymgymryd â’r profiad cyffrous ond heriol hwn. Edrychaf ymlaen at ddilyn eu cynnydd wrth iddynt gychwyn o’r Canaries mewn ychydig wythnosau ac annog pawb i gefnogi eu hymdrechion codi arian.
...
Dywedodd Nia Baylis a Pammie Tyson:
...
Roeddem yn falch iawn o gyfarfod â Liz yn ei swyddfa yn Nolgellau yn ddiweddar a'i chyflwyno i'r her Traws-Iwerydd sydd bellach ond rai wythnosau i ffwrdd. Mae'r ymgyrch wedi bod yn dair blynedd o hyd ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth ac anogaeth a gawsom ar hyd y ffordd. Rydyn ni rwan yn y sefyllfa ffodus iawn o fod wythnosau i ffwrdd o lansio ac mae'n anrhydedd ymuno â 38 tîm arall ar y llinell gychwyn yn La Gomera. Byddwn yn rhwyfo i godi arian ac ymwybyddiaeth o elusen Arennnau Cymru ac elusennau cadwraeth, Cefnforoedd Antigua a Barbuda Ocean Trust ac Elkhorn Marine Conservancy. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein mordaith yn ysbrydoli eraill i gyrraedd eu potensial. Gellir olrhain a dilyn y ras drwy drefnydd y digwyddiad, 'World Toughest Row' a fydd yn darparu sylw helaeth ar y cyfryngau drwy gydol y daith.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter