Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau brys ar y darparwr rhwydwaith Openreach i wneud gwaith paratoadol i atal toriadau rhwydwaith yn y dyfodol yn ystod stormydd y gaeaf.
Mae Mr ap Gwynfor wedi bod yn cynrychioli trigolion a thua ugain o fusnesau yng nghymuned Llwyndyrys ger Pwllheli, gafodd eu gadael heb gysylltiad ffôn a rhyngrwyd am wythnosau yn dilyn y dinistr a achoswyd gan Storm Darragh.
Mae trigolion a busnesau yn ofni, os nad yw gwaith yn cael ei wneud rwan i glirio ceblau o ganghennau sy'n hongian dros ben, bydd pŵer yn cael ei golli eto gan arwain at heriau difrifol i drigolion a busnesau sy’n ddibynnol ar gysylltiad rhyngrwyd a ffôn dibynadwy.
Mae trigolion wedi cynnal arolwg o'r ffordd sy'n arwain at Llwyndyrys ac wedi nodi problemau sylweddol sy'n gofyn am sylw brys fel torri coed i atal ceblau rhag plethu yn y canghennau.
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yn codi'r mater gydag Openreach.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Wel, mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn cofio storm Darragh ac effaith andwyol y storm honno ar nifer o'n cymunedau ni. Fe arweiniodd y storm at filoedd o aelwydydd a busnesau yn colli cysylltiadau ffôn a chysylltiadau â'r we. Yn eu plith oedd cymuned Llwyndyrys, a gollodd ei llinellau ffôn a Wi-Fi am dros dri diwrnod. Ers hynny, mae'r gymuned honno wedi adolygu'r isadeiledd ac wedi gweld bod y ceblau sydd yn rhedeg ar hyd polion mewn cyflwr bregus: maen nhw wedi cael eu pwytho drwy ganghennau'r coed ar ochr y ffordd. Y peryg ydy pan ddaw'r storm nesaf, y bydd y ceblau yma'n torri oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi eu pwytho drwy ganghennau'r coed, ond yn amlwg, mae bron yn amhosibl mynd allan i drwsio cables yng nghanol storm. Felly, mi fyddai'n llawer gwell gwneud y gwaith diogelu a pharatoadol yma rhag blaen, ac mae hyn yn wir mewn cymunedau, wrth gwrs, ar draws Cymru. A wnewch chi, felly, siarad â Openreach i sicrhau eu bod nhw'n gwneud y gwaith diogelu hwn dros yr haf er mwyn osgoi problemau pan ddaw'r tymor stormydd yn yr hydref?
Dywedodd perchennog busnes lleol ac aelod o Bwyllgor Ardal Llwyndyrys, Myrddin ap Dafydd:
Roedd yr ardal wledig hon ymysg y 5% olaf o Gymru i dderbyn band llydan cyflym. Cafodd gwifrau eu plethu drwy frigau a boncyffion coed ochr ffordd. Erbyn hyn mae stormydd cyson a chaled yn golygu bod difrod cyson yn cael ei wneud i'r canghennau. Mae o leiaf un busnes ym mhob cartref yn yr ardal ac mae'r toriadau hyn yn effeithio ar economi'r ardal yn ogystal â defnydd hamdden o'r we.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter