Mabon yn herio Llafur Cymru ar doriadau i Reilffordd y Cambrian

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi herio llywodraeth Lafur Cymru dros newidiadau i amserlen Rheilffordd y Cambrian sydd wedi gweld gwasanaethau’n cael eu torri, gan achosi heriau sylweddol i gymudwyr a thrigolion lleol.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Gwynfor, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn israddio gwasanaethau ar Reilffordd Arfordir y Cambrian, y dylai llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi’n mewn cysylltiadau trafnidiaeth ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru.

Cyhuddodd AS Plaid Cymru y llywodraeth Lafur o oruchwylio dros gatalog o doriadau i drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Gwynedd, gan gyhuddo Trafnidiaeth Cymru o fod yn ddifater am brofiad teithio ei etholwyr. 

Mae Mr ap Gwynfor wedi cael ei lobïo gan etholwyr sy’n byw ar hyd Arfordir y Cambrian ac sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan ddileu gwasanaethau, gan achosi anawsterau i gymudwyr, myfyrwyr, busnesau, a’r economi ymwelwyr lleol.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy mhryderon ynghylch y newidiadau i amserlen Rheilffordd y Cambrian, yn dilyn cwestiynau ac ymrwymiadau blaenorol ar y mater. Mae’r newidiadau sydd wedi dod i rym yn profi’n hynod o niweidiol i’m hetholwyr – pobl na allant deithio i’r gwaith, na allant fynd i siopa neu i weld teulu a ffrindiau, ac yn y bôn yn gwthio pobl i ddefnyddio ceir ac amgylcheddol niweidiol. Cafodd y newidiadau eu cyfiawnhau ar sail defnydd isel o deithwyr – rhywbeth a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn ateb blaenorol i mi – ond siawns nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod y rheilffordd wedi’i effeithio am y rhan fwyaf o’r deng mlynedd diwethaf – o ailadeiladu Pont Briwet ddeng mlynedd yn ôl, cau pum mis oherwydd y tywydd, cau yn y gaeaf oherwydd ailddatblygu Pont Bermo, Covid ac effeithiau eraill. Felly, byddwch yn deall pam yr wyf i a’m hetholwyr yn amau’r achos sydd wedi’i gyflwyno. Mae angen i ni weld rheilffordd sy’n ateb anghenion y trigolion. Felly, a ydych yn derbyn bod y newidiadau wedi bod yn niweidiol, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaeth trên mwy rheolaidd yn cael ei adfer ar Reilffordd y Cambrian?

 

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:

Dwi ddim yn meddwl mewn gwirionedd fod gan y rhai sy’n gweithredu y toriadau hyn unrhyw syniad o’r effaith andwyol y mae eu penderfyniadau yn ei gael ar fywydau pobl sy’n byw ar hyd Arfordir y Cambrian. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan etholwyr sy’n dweud wrthyf am yr heriau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i’r newidiadau difeddwl hyn i’r amserlen. O Bwllheli i Aberdyfi, mae cymunedau sy’n dibynnu ar Reilffordd y Cambrian yn cael eu neilltuo o’r broses benderfynu, eu lleisiau’n cael eu tawelu, a safbwyntiau’n cael eu diystyru. Mae’r toriadau hyn yn gorfodi pobl yn ôl i mewn i’w ceir neu’n gorfod dibynnu ar haelioni teulu a ffrindiau i’w cludo o A i B – tra bod y llywodraeth yn dweud wrthym am wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl yn cael eu hanhwyluso gan newidiadau parhaol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyfor Meirionnydd, newidiadau sydd yn y pen draw yn arwain at wasanaethau gwaeth i’n cymunedau. Dylai’r llywodraeth fod yn ymwybodol bod gan Trafnidiaeth Cymru fandad i weithredu ar draws Cymru gyfan, ac eto nid yw’n syndod fod pobl yng ngogledd orllewin a chanolbarth Cymru yn dod i’r casgliad bod yr ardaloedd hyn o dan anfantais anghymesur.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-02-05 13:52:07 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.