Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi mynegi ei sioc nad oedd Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg llywodraeth Cymru yn ymwybodol o gynlluniau Undeb Rygbi Cymru (URC) i gael gwared ar 100 o rolau swyddogion hwb rygbi ledled Cymru a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ddatblygiad rygbi ymhlith plant oedran ysgol a chlybiau cymunedol.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Gwynfor fod Swyddogion Hwb Undeb Rygbi Cymru yn allweddol wrth helpu disgyblion ysgol a phlant ifanc i ddeall rygbi, gwella iechyd corfforol, a chryfhau lles cymdeithasol ac emosiynol.
Mae tua 30,000 o blant ledled Cymru wedi elwa o’r cynllun sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Undeb Rygbi Cymru ac ysgolion ers 2014.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Mabon ap Gwynfor, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, ‘nad oedd yn ymwybodol o gyhoeddiad URC,’ ac y byddai’n dilyn y mater i fyny.’
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS
Gaf i ddechrau drwy dynnu sylw at lwyddiannau Clwb Rygbi Merched Gwylliaid Meirionnydd yn ddiweddar? Ac i ddatgan budd: mae fy merched i'n aelodau o'r clwb rygbi hynny. Mae'r merched dan 12 wedi cyrraedd rowndiau terfynol saith-bob-ochr cenedlaethol yr Urdd, wedi ennill cwpan gogledd Cymru, ac wedi cyrraedd rownd derfynol cenedlaethol Cymru yn Rodney Parade. Fyddai dim o hynny wedi digwydd heb gymorth swyddog Hwb Undeb Rygbi Cymru, sef Euros Jones, oedd yn gwneud gwaith gwych yn mynd i mewn i'r ysgol ac yn helpu myfyrwyr a'r disgyblion yn yr ysgolion i ddod i ddeall rygbi, nid yn unig o ran chwarae, ond y sgiliau eraill sydd ynghlwm â rygbi. Yn anffodus, fe benderfynodd y WRU dynnu'r cyllid a thorri swyddi 90 o'r swyddogion Hwb yma oedd yn gweithio ar draws Cymru ac yn mynd i mewn i'r ysgolion, yn helpu o ran addysg gorfforol yn yr ysgolion, sydd felly yn effeithio ar addysg gorfforol plant yn yr ysgolion. Oeddech chi fel Llywodraeth yn ymwybodol o fwriadau'r WRU i wneud y toriadau yma i'r swyddogion Hwb? Ac ydych chi'n credu bod penderfyniad y WRU i dorri'r swyddogion Hwb yma yn benderfyniad doeth?
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mae rygbi yng Nghymru mewn lle anodd ar hyn o bryd, gyda'r timau hŷn yn pallu a sylfaen y cefnogwyr yn prinhau. Er mwyn tyfu'r gêm, mae angen meithrin y llawr gwlad a'r ieuenctid trwy eu brwdfrydedd yn y gêm. Dyna beth wnaeth y swyddogion Hwb. Roeddent yn darparu llwybr i bobl ifanc o bob cefndir i gymryd rhan yn y gêm, ac yn gymorth mawr i'r arlwy addysg gorfforol i ysgolion. Mae hynny bellach wedi mynd ac fel mae pethau, nid oes dim i gymryd eu lle. Mae hyn yn golled enfawr i rygbi cymunedol ac yn hynod fyrbwyll.
Ychwanegodd Cadeirydd Clwb Rygbi Bethesda, Gareth Evans:
Pan glywais fod yr Undeb yn bwriadu cael gwared o'r Swyddogion Hwb drwy Gymru, roeddwn i'n geg agored. Y ffaith fod cymaint o dalent ifanc yn cael ei feithrin gan y Swyddogion Hwb a gwirfoddolwyr ar draws y clybiau ydi un o'r ychydig ronynau o oleuni sydd yn rygbi Cymru ar hyn o bryd. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar ddylanwad Swyddog Hwb effeithiol, ddim yn unig o safbwynt rygbi, ond, hefyd o ran datblygiad personol y plant a phobl ifanc dan eu gofal. Mae yna gymaint o ddylanwadau negyddol ym mhobman a mae gwaith y Swyddogion Hwb wrth iddynt annog y plant i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i gadw'n heini yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae Clwb Rygbi Bethesda wedi bod yn lwcus iawn efo'n Swyddogion Hwb ni ar hyd y blynyddoedd ac, fel canlyniad, mae gynno ni adrannau Mini a Iau iach a llwyddiannus. Os byddwn yn colli ein Swyddog Hwb dwi'n poeni'n fawr, nid yn unig, am y dyfodol, ond, am y presennol. Os mai dyma yw datrysiad yr Undeb i broblemau dwys rygbi Cymru, Duw a'n helpo ni.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter