Mabon ap Gwynfor yn plannu coeden fel rhan o ymgyrch Tyfu Gyda’n Gilydd NFU Cymru

Roedd NFU Cymru yn falch o groesawu Mabon ap Gwynfor AS i fferm yn ei etholaeth i blannu coeden fel rhan o ymgyrch ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ yr undeb.

Yn ddiweddar bu Mabon ap Gwynfor AS ar ymweliad â fferm Rhodri Jones ger Bala er mwyn plannu derwen a roddwyd yn garedig iawn gan Coed Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Goed yng Nghymru, fel rhan o strategaeth ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ ar gyfer plannu coed yng Nghymru.

Yng nghyd-destun targedau uchelgeisiol i gynyddu coetir yng Nghymru, er mwyn addasu a chyfyngu ar heriau yn sgȋl newid hinsawdd, mae’r fenter ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ yn hyrwyddo syniadaeth ar gyfer dyfodol plannu coed yng Nghymru. Mae’r ymgyrch yn ffocysu ar integreiddio coed mewn systemau ffermio er mwyn caniatáu i gynhyrchu bwyd, ffermio, coed natur, tirwedd a chymunedau gwledig i ffynnu.

Dywedodd Rhodri Jones, Cadeirydd NFU Cymru ym Meirionnydd: “Roeddwn yn eithriadol o falch fod Mabon ap Gwynfor AS wedi gallu ymuno â ni er mwyn plannu coeden ar y fferm deuluol.

“Yn NFU Cymru, rydym yn grediniol bod gan amaeth ran unigryw i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac rydym yn gweithio tuag at y nod o wireddu amaeth sero net erbyn 2040, gan gynhyrchu’r bwyd sydd fwyaf cydnaws â’r amgylchedd yn y byd. Rydym ni’n cydnabod mor hanfodol yw coed, perthi a’r dirwedd ehangach o ran storio carbon i gyrraedd y nod sero net.

“Rydym am sicrhau bod yna gynnydd o ran targedau uchelgeisiol Cymru mewn ffordd sy’n diogelu'r holl fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y mae ffermio Cymreig yn eu sicrhau.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS: “Mae pawb yn derbyn bod yn rhaid i ni chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r hinsawdd a’r argyfwng natur sy’n ein hwynebu. Ffermwyr yw rheolwyr tir llawer o Gymru ac mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth, ac mae’r diwydiant yn cymryd ei gyfrifoldeb o ddifri ac yn mynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol. Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well na neb arall ac yn gwybod pa rannau o'r fferm sy'n lwyni a beth sy'n addas ar gyfer porfa neu gnydau. Felly, rhaid i’r Llywodraeth a sefydliadau eraill weithio mewn ffordd strategol gyda ffermwyr a sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle iawn am y rheswm iawn. Mae’r coeden gywir yn y lle iawn yn darparu cysgod da i dda byw, gallu helpu i atal erydiad tir, neu gall wella ffiniau, ymhlith manteision eraill.

“Mae Rhodri yn enghraifft o sut y gall y diwydiant weithio gyda sefydliadau fel Coed Cadw i sicrhau bod coed yn gweithio er lles pawb." Mae addewid ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ NFU Cymru yn deillio o adroddiad Tyfu Gyda’n Gilydd: Strategaeth ar gyfer cynyddu gorchudd coed yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy a lansiwyd ym mis Medi 2021. Mae’r ddogfen yn adnabod y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer gwireddu’r amcanion tra’n diogelu cymunedau gwledig hyfyw a sicrhau parhȃd cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel a fforddiadwy yma yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth goed NFU Cymru a’r ymgyrch ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’, ewch i wefan NFU Cymru.

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2022-02-21 10:29:26 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.