Galw am sicrwydd brys am sefyllfa ffordd yr A487

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) i ddarparu amserlen glir o waith i ailagor yr A487 rhwng Corris a Minffordd yn ne Meirionnydd.

Mae’r ffordd wedi bod ar gau ers Rhagfyr 11 yn dilyn tirlithriad a achoswyd gan Storm Darragh. Mae’r cau yn golygu dargyfeiriad 25 milltir ar gyfer yr hyn a oedd yn daith 6 milltir, gan achosi problemau sylweddol i bobl leol, busnesau, a chysylltiadau trafnidiaeth gogledd-de. 
...
Mae Mr ap Gwynfor eisoes wedi gofyn am gyfarfod brys gydag NMWTRA i ganfod pa gamau sy'n cael eu cymryd i atgyweirio'r difrod ac ailagor y ffordd, sy'n gwasanaethu fel coridor masnachol a thrafnidiaeth hanfodol rhwng gogledd a de Cymru.   
...
Mae Mr ap Gwynfor hefyd wedi codi pryderon am yr arwyddion sy’n cael eu defnyddio i roi gwybod i yrwyr fod y ffordd ar gau a’r llwybr dargyfeirio, yn enwedig yr arwyddion ger tafarn y Cross Foxes sy’n awgrymu’n anghywir bod y B4405 i Dywyn hefyd ar gau.
...
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS: 
...
Mae wythnos bellach ers i ddarn chwe milltir o ffordd brysur yr A487 rhwng Minffordd a Chorris gau yn dilyn tirlithriad, gan arwain at ddargyfeiriad pum milltir ar hugain trwy Ddinas Mawddwy. Mae'r A487 yn gyswllt hanfodol rhwng y gogledd a'r de, a ddefnyddir yn helaeth gan gerbydau nwyddau trwm a thraffig busnes. Mae cau’r ffordd rhwng Minffordd a Chorris Uchaf yn cael effaith sylweddol ar fy etholwyr yn ne Meirionnydd, gyda llawer yn dibynnu ar y ffordd i gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu ac ysgolion ym Machynlleth er enghraifft. Mae'r ffordd hefyd yn llwybr allweddol i Mansel Davies sy'n danfon llaeth o dde orllewin Cymru i Hufenfa Caernarfon yn Y Ffor. Mae'n hanfodol felly bod gwaith i ailagor y ffordd yn mynd rhagddo'n gyflym. Yr wyf yn bryderus ynghylch y diffyg gwybodaeth a ddarperir i bobl leol a chynrychiolwyr etholedig. Mae angen arwydd clir arnom pryd y mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhagweld y bydd y ffordd yn ailagor a pha fesurau lliniaru eraill sy'n cael eu rhoi ar waith. Mae diffyg eglurder yn achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd sylweddol. Nid yw ond yn deg bod y rhai y mae cau’r ffordd yn effeithio arnynt yn cael gwybodaeth amserol a chlir o’r hyn sy’n digwydd o ran gweithredu tymor byr a chynllunio hirdymor. Byddwn hefyd yn gofyn bod arwyddion cliriach yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr ffyrdd am y llwybr penodol sydd ar gau a bod yr arwyddion hyn yn cael eu gosod yn ddiogel yn y lleoliadau mwyaf priodol.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-12-17 13:20:33 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.