LLEISIO PROBLEMAU CYSYLLTEDD ARDALOEDD GWLEDIG GYDAG OFCOM

AS ac ymgeisydd Plaid Cymru yn cyfarfod â’r rheolydd telegyfathrebu cyn cyfarfod Openreach.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Merionnydd, Mabon ap Gwynfor, wedi cyfarfod â rheolydd cyfathrebu y DU, Ofcom, i bwyso am yr angen am well cysylltedd band eang yn ei hetholaeth wledig. 

Dangosodd adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Ofcom, fod dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymderau band eang o lai na 10Mb/s, y trothwy cymhwysedd a osodwyd gan lywodraeth y DU ar gyfer uwchraddio rhwydwaith.  

Mae ffigurau hefyd yn dangos bod cyflymderau llawrlwytho ar gyfartaledd yn yr etholaeth (41.2%) yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru (58.3%) a'r DU (72.9%).  

Bydd Mrs Saville Roberts, sydd wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i wella argaeledd band eang ar draws cymunedau yn ei hetholaeth, a Mabon ap Gwynfor yn cyfarfod â BT ac Openreach yr wythnos yma, lle bydd yn codi problemau etholwyr sy'n cael trafferth gyda gwasanaeth annerbyniol ac addewidion gwag gan ddarparwyr rhwydwaith. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: 

‘Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y pryderon sydd gennyf ynglŷn â pha mor gyflym y mae band eang cyflym yn cael ei gyflwyno yn fy etholaeth wledig, a’r angen i wella cysylltedd yn gyffredinol ar draws cymunedau gwledig.’ 

‘Mae ffigurau Ofcom yn datgelu’r rhaniad anghymesurol rhwng ardaloedd sy’n derbyn band eang cyflym a’r cymunedau gwledig hynny (yn bennaf) sy’n brwydro i gael cyflymder llawrlwytho sylfaenol y llywodraeth o 10Mb/s.’ 

'Mae Dwyfor Meirionnydd yn gyson ymhlith y gwaethaf yn y DU o ran mynediad at fand eang dibynadwy. Mae hyn yn cael ei gymhlethu gan gysylltedd gwael cyffredinol; rhwystr sylweddol i fusnesau a phreswylwyr.’ 

‘Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw cydraddoldeb mynediad i seilwaith cyfathrebu’r wlad. Roeddwn wedi gobeithio y byddai gwahanu BT oddi wrth Openreach yn rhoi diwedd i’r monopoli yn y ddarpariaeth band eang, ond mae anghenion cymunedau gwledig yn parhau i gael eu hesgeuluso.' 

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor: 

'Mae uwchraddio seilwaith ddigidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i sicrhau nad yw'r economi wledig dan anfantais bellach.' 

'Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i hysbysu Ofcom fel y rheolydd band eang, o'r materion sy'n wynebu cymunedau gwledig o ran darparu band eang.' 

'Mae'n amlwg bod y sefyllfa bresennol yn rhoi busnesau ac aelwydydd lleol dan anfantais a gallai beri i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith am fuddsoddi mewn ardaloedd o'r fath.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-03-22 12:55:03 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.