Mae Cynghorydd Gwynedd dros Danygrisiau, Annwen Daniels yn llawenhau o glywed bod ymgyrch i wella diogelwch i ddisgyblion wrth brif fynedfa’r ysgol wedi dwyn ffrwyth.
Ers dwy flynedd, mae’r Cynghorydd Sir dros bowydd, Rhiw a Thanygrisiau wedi bod yn pwyso am gefnogaeth ariannol i helpu’r ysgol wella’r mynediad i’r safle, fel bod llai o risg i ddisgyblion cynradd gamu allan yn syth i’r ffordd wrth adael yr ysgol ar ddiwedd y dydd.
“Mae wedi bod yn broblem dwi wedi bod yn ei thrafod ers cael fy ethol yn gynghorydd sir,” eglura’r Cynghorydd sy’n rhiant ei hun.
“Y broblem ydi bod yr ysgol y tu allan i ffordd, lôn sengl sydd â lle i un cerbyd yrru arni. Ar ben hynny, mae ceir yn parcio y tu allan i’r ysgol, er gwaetha’r llinellau dwbl melyn wrth godi’r disgyblion, sy’n ychwanegu at y pryder am ddiogelwch y plant wrth fynedfa’r ysgol ar ddiwedd y dydd. Rydym yn ymwybodol bod risg i blentyn gamu i’r ffordd oherwydd natur lleoliad mynedfa’r ysgol.
“Ond dwi’n hynod o falch o glywed bod arian bellach wedi ei glustnodi i Gyngor Gwynedd o gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i greu mynediad newydd i’r ysgol a chau’r hen fynediad i wella diogelwch y disgyblion wrth adael yr ysgol.
“Mae’n newyddion da iawn i’r pentref ac yn dod a thawelwch meddwl i staff yr ysgol, llywodraethwyr a’r rhieni. Fel Cynghorydd Sir a Chadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i swyddogion Cyngor Gwynedd am eu cymorth parod i’n cynorthwyo yn y gwaith o ddiogelu’r buddsoddiad pwysig yma i’r ysgol,” eglura’r Cynghorydd Annwen Daniels.
Yn ôl Gerallt Jones, Prifathro Ysgol Tanygrisiau: “Mae cael newyddion am fuddsoddiad i’r ysgol yn achos o lawenydd mawr i ni. Rydym yn ddiolchgar i’n Cynghorydd lleol ac i’r Cyngor am weithredu ar ein rhan, ac yn edrych mlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau ar y safle.
“Hoffwn hefyd wneud cais unwaith yn rhagor i bobl osgoi parcio ar y llinellau dwbl melyn y tu allan i’r ysgol a defnyddio’r maes parcio gerllaw wrth godi disgyblion o’r ysgol. Rydym yn ddiolchgar i bawb am gydweithio â ni i sicrhau mai diogelwch y plant sy’n dod flaenaf i holl gymuned yr ysgol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter