GŴR O BEN LLŶN YN DERBYN ENWEBIAD GYRRWR Y FLWYDDYN

Mae gyrrwr bws o Ben Llŷn wedi’i enwebu am wobr sy’n cydnabod sgiliau gyrwyr bysiau mini.

Mae Patrick McAteer sy'n byw ym Morfa Nefyn yn gyrru i'r darparwr trafnidiaeth cymunedol O Ddrws i Ddrws. Mae’n un o bedwar o Gymru a Lloegr sydd wedi’u gwahodd i Seremoni Dathlu a Gwobrwyo MiDAS yn Aintree ym mis Hydref.

MiDAS yw'r cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini sy'n hyrwyddo safon a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer asesu a hyfforddi gyrwyr bysiau mini. Mae wedi'i gynllunio i wella safonau gyrru bysiau mini a hyrwyddo'r defnydd diogel o fysiau mini.

Mae gwobrau MiDAS 2024 yn tynnu sylw at y rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl, gan ymdrechu am ragoriaeth a chodi safonau ar draws y diwydiant.

Mae O Ddrws i Ddrws yn darparu gwasanaeth cludiant cymunedol hanfodol i drigolion Llŷn a fyddai fel arall wedi eu hynysu gartref, yn methu cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau ac yn cynnal annibyniaeth trigolion yr ardal.

Wrth groesawu ei enwebiad, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Rwyf wrth fy modd bod Patrick wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr hon. Mae’n dyst i’w flynyddoedd o wasanaeth gydag O Ddrws i Ddrws a’i safon uchel o yrru, gan fynd gam ymhellach i sicrhau bod y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac sydd heb opsiynau teithio hygyrch yn cael eu darparu ar eu cyfer – gan ymestyn eu hannibyniaeth. Mae tîm O Ddrws i Ddrws wedi bod yn gwasanaethu cymunedau ar draws Llŷn ers dros ugain mlynedd, gan gludo cannoedd o deithwyr ar filoedd o deithiau hanfodol o fynd i apwyntiadau meddygol i deithiau siopa lleol a theithiau ysgol, coleg a gwaith. Mae gyrwyr fel Patrick yn ymgorffori popeth sy'n arbennig am O Ddrws i Ddrws, bob amser yn barod i gynnig clust gyfeillgar ac yn barod i fynd yr ail filltir i helpu'r rhai sy'n dibynnu ar y gwasanaeth. Dymunaf y gorau i Patrick yn y gystadleuaeth. Beth bynnag fydd y canlyniad, rwy’n siŵr y bydd pobl Llŷn a thu hwnt yn ymuno â mi i ddiolch i Patrick am ei flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig i’r gymuned leol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-09-23 16:40:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.