LIZ YN MYNNU SICRWYDD AM DDEDFRYD Y PEDOFFEIL NEIL FODEN

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi mynnu sicrwydd na fydd y pedoffeil a chyn bennaeth ysgol Neil Foden yn cael ei ryddhau o’r carchar nes ei fod wedi treulio dwy rhan o dair o’i ddedfryd dan glo.

Cafwyd Foden, a oedd yn bennaeth strategol ar ddwy ysgol yng Ngwynedd, ei ganfod yn euog yng Ngorffennaf 2024 o gam-drin pedair merch ysgol yn ei ofal dros gyfnod o bedair mlynedd. Fe’i disgrifiwyd gan y barnwr fel person ‘trahaus’ a ‘bwli.’

Yn ystod cwestiynau i’r Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder yn Nhŷ’r Cyffredin, mynnodd Mrs Saville Roberts sicrwydd na fyddai cynllun y Weinyddiaeth Gyfiawnder o ryddhau carcharorion yn fuan (SDS40) yn berthnasol i garcharorion fel Foden sydd dan glo am droseddau rhywiol, ac y bydd yn treulio o leiaf deuddeg mlynedd yn y carchar fel yr adroddwyd yn ystod ei ddedfrydu.  

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Neil Foden is in prison for the sexual abuse of four, vulnerable schoolchildren. He was the strategic headteacher at two secondary schools in Gwynedd. Foden was convicted of nineteen charges and sentenced to seventeen years in July this year for his abhorrent crimes. The judge said he showed no remorse. Can she advise me how to seek assurances for his victims that Foden won’t be released until he has served two thirds of his sentence?

Wrth ymateb, dywedodd yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder:

Gallaf gadarnhau fod pob trosedd rhywiol, o bob math, wedi eu hepgor o fesurau y SDS40.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-22 17:37:00 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.