Y Gwir Anrh. Liz Saville Roberts AS

 

Cysylltwch â Liz Saville Roberts AS

 

Swyddfa Dolgellau 

Angorfa | Heol Meurig | Dolgellau | Gwynedd | LL40 1LN

01341 422 661 | [email protected] 

Swyddfa Caernarfon 

8 Stryd y Castell | Caernarfon | Gwynedd | LL55 1SE

01286 672 076 | [email protected] 

 

Cyfrifoldebau 

Fel Aelod Seneddol gallaf eich helpu gyda: 

  • Swyddfa Gartref (Pasports | Fisas) 
  • Cyfraith a Threfn (Heddlu | Cyfiawnder) 
  • Pensiynau a Budd-daliadau (DWP)
  • Lluoedd Arfog 
  • Cynnal Plant a Credydau Treth

 

Cefndir Liz 

Etholwyd Liz Saville Roberts gyntaf yn 2015, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cadwodd y sedd yn etholiadau brys 2017 a 2019 gyda chanran uwch o’r bleidlais. Enillodd sedd newydd Dwyfor Meirionnydd yn 2024 gyda mwyafrif o 15,876. Yn wreiddiol o Eltham yn ne Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain a gogledd Cymru ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg. Cyn ei hethol i San Steffan, roedd Liz yn Gynghorydd Sir Gwynedd rhwng 2004 a 2015 gan gynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Yn 2017 apwyntiwyd Liz fel Arweinydd Seneddol Grŵp Plaid Cymru San Steffan a hi yw Llefarydd y Blaid ar y Swyddfa Gartref, Amddiffyn, Merched a Chydraddoldeb a Chyfiawnder. Mae Liz wedi byw ym Mhen Llyn gyda’i gŵr Dewi ers 1993. Mae ganddynt ddwy ferch. Yn 2016 derbyniwyd Liz fel aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni. Yn ei hamser hamdden mae Liz yn mwynhau marchogaeth a cherdded.  


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page 2024-09-13 14:51:04 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.