Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi dod yn aelod o grŵp trawsbleidiol o seneddwyr sydd â’r dasg o eirioli ar ran timau achub gwirfoddol, gan gynnwys 6 yn ei hetholaeth hi.
Bydd Mrs Saville Roberts yn dod yn aelod o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Dimau Achub Gwirfoddol sydd wedi’i sefydlu i eirioli ar ran timau chwilio ac achub gwirfoddol ledled y DU wrth i’r galw am eu gwasanaethau gynyddu.
Mae Mrs Saville Roberts yn cynrychioli 6 o’r 47 o dimau achub gwirfoddol sy’n weithredol yng Nghymru a Lloegr, sef Llanberis, Aberglaslyn, Tîm Chwilio ac Achub De Eryri, Aberdyfi, Tîm Achub Ogof Gogledd Cymru a Tîm Achub Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae'r holl dimau achub sy'n weithredol yng ngogledd Cymru yn profi cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau. Tîm Achub Llanberis yw’r prysuraf yn y DU gyda dros 200 o alwadau y flwyddyn, gyda’r rhan fwyaf o waith y tîm yn canolbwyntio ar Yr Wyddfa.
Mae'r gwasanaethau hyn yn dibynnu'n llwyr ar haelioni ac amser gwirfoddolwyr. Mae eu gwaith yn cynnwys; chwiliadau am bobl â dementia, chwiliadau hunanladdol, cerddwyr a dringwyr ar goll, argyfyngau meddygol ar fynyddoedd ac ogofâu, gwaith adfer cyrff, achub da byw, ymateb i lifogydd, a chodi arian i dalu costau yswiriant, offer, hyfforddiant a chyfleustodau.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Mae’r timau chwilio ac achub gwirfoddol sydd wedi’u lleoli ar draws fy etholaeth yn Nwyfor Meirionnydd yn ysbrydoliaeth ac yn enghreifftiau anhygoel o wasanaeth cyhoeddus, yn perfformio gweithredoedd o arwriaeth yn anhunanol ddydd ar ôl dydd ym mhob math o dywydd. Mae’r gwaith maent yn ei wneud yn hollbwysig, nid yn unig i bobl leol sy’n byw ac yn mwynhau mynyddoedd ac arfordir Gwynedd, ond i’r miloedd lawer o ymwelwyr sy’n dod i’n hardal i fwynhau’r tirwedd ysblennydd. Maent yn peryglu eu diogelwch eu hunain yn rheolaidd wrth achub bywydau eraill sydd y tu hwnt i gyrraedd cymorth meddygol confensiynol. Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â rhai o’r gwirfoddolwyr eithriadol hyn a gallaf dystio i’w hymrwymiad, eu gwybodaeth a’u sgiliau. Dylid sylweddoli fodd bynnag nad yw'r galw ar ein timau achub gwirfoddol erioed wedi bod yn fwy. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau lle mae angen gwasanaethau ein timau chwilio ac achub ac mae aelodau yn dweud wrthyf am gynnydd sylweddol mewn galwadau. Gyda'r cynnydd mewn galwadau daw'r pwysau ar adnoddau. Mae timau achub gwirfoddol sy'n gweithio ar draws Gwynedd yn dibynnu'n llwyr ar haelioni a chefnogaeth rhoddion cyhoeddus. Maent yn cymryd arweiniad ar weithrediadau chwilio ac achub, gan gymryd pwysau sylweddol oddi ar gyrff statudol megis Heddlu Gogledd Cymru. Rwy’n falch o fod yn ymuno â’r grŵp newydd hwn a fydd yn gyfle i’r rhai ohonom sy’n cynrychioli timau achub gwirfoddol godi llais ar eu rhan a lobïo am y cymorth y maent ei angen ac y maent yn ei llwyr haeddu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter