Liz yn ymuno a pheirianwyr Openreach wrth i waith uwchraddio band eang barhau

Ymunodd AS Plaid Cymru Dwyfor MeirionnyddLiz Saville Roberts â pheirianwyr Openreach yn Rowen (Fairbourne) a Llwyngwril, i wthio am ddiweddariad ar waith i osod band llydan ffeibr i gymunedau yn ei hetholaeth. 

Mae Mrs Saville Roberts wedi ymgyrchu ers tro i wella argaeledd band eang ar draws llawer o gymunedau yn Nwyfor Meirionnydd, gan helpu trigolion a busnesau lleol i gael mynediad at y gwasanaeth cyflym, dibynadwy y maent yn ei haeddu.
...
Cwblhawyd gwaith diweddar yn Rowen, lle mae 99% o gyflenwad ffibr llawn erbyn hyn trwy gynllun Partneriaeth Cymunedol Ffibr (FCP). 
...
Mae ardaloedd eraill sydd bellach yn elwa o'r FCP yn cynnwys Clynnog Fawr (98% o ddarpariaeth), Llanbedr (95% o ddarpariaeth), Llithfaen (96% o ddarpariaeth), a Llanuwchllyn (90% o ddarpariaeth).
...
Mae gwaith hefyd ar y gweill i gyflenwi ffeibr llawn i 8,100 o eiddo Prosiect Gigabit yn Nwyfor Meirionnydd gan gynnwys i 913 eiddo ym Mhenrhyndeudraeth (2026), 787 eiddo yn Llanbedrog (2026), 838 eiddo yn Harlech (2027), a 445 eiddo yn Waunfawr (2027).
...
Bydd cymunedau eraill megis Aberdaron, Botwnnog, Ffestiniog, Llandrillo, Groeslon, Maentwrog, Garndolbenmaen a Trawsfynydd hefyd yn elwa.
...
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: 
...
Croesewais y cyfle i gyfarfod â pheirianwyr ac uwch reolwyr Openreach yn Rowen i drafod cyflwyno band eang ffeibr llawn ar draws yr etholaeth wledig yma, ac i sicrhau bod uwchraddio seilwaith digidol ar draws Gwynedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae Dwyfor Meirionnydd wedi’i restru’n gyson ymhlith y gwaethaf yn y DU o ran mynediad at fand eang dibynadwy, cyflym iawn, wedi’i waethygu gan gysylltedd gwael cyffredinol – rhwystr sylweddol i fusnesau a thrigolion lleol. Mae’n galonogol felly gweld yn uniongyrchol y gwaith sy’n cael ei wneud i wella cysylltedd band eang yn rhai o’n cymunedau mwy anodd eu cyrraedd, trwy waith uwchraddio cyfnewidfeydd, Partneriaethau Ffibr Cymunedol, a prosiect gigabit. Rwyf wedi dadlau’n gyson dros wella cysylltedd ar draws Dwyfor Meirionnydd, a gyda gweithio o gartref bellach yn gyffredin i lawer ynghyd a’r galw ar ffermwyr i gyflwyno gwybodaeth arlein, ni fu’r galw am fand eang cyflym, dibynadwy erioed yn uwch. Mae gweld peirianwyr ar lawr gwlad yn gweithio i ddod â band eang cyflym iawn i gymunedau fel Fairbourne, Beddgelert, Clynnog Fawr, ac i ardaloedd a oedd wedi’u hepgor o’r blaen o fand eang cyflym, dibynadwy, yn sbarduno’r brys i gysylltu ein cymunedau’n well. Os ydym am gau’r bwlch rhwng ardaloedd sy’n gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn a’r cymunedau gwledig hynny (yn bennaf) sy’n ei chael hi’n anodd cyflawni cyflymderau sylfaenol, yna mae’n rhaid i’r gwaith symud ymlaen yn gyflym. Byddaf yn cadw llygad barcud ar y cynnydd i gysylltu’r 8,100 o gartrefi yn Nwyfor Meirionnydd a fydd yn elwa o Brosiect Gigabit rhwng rwan a 2030 gan sicrhau bod amserlenni y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni ac ymrwymiadau cytundebol yn cael eu cyflawni.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-05-14 09:36:42 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.