GALW I ATGYFNERTHU AMDDIFFYNFEYDD TYWYN

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts yn galw ar Gyngor Gwynedd i ddatblygu cynllun cadarn a hir dymor i atgyweirio a chryfhau amddiffynfeydd mor yn Nhywyn sydd wedi eu difrodi yn sylweddol. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Roeddwn yn falch o gyfarfod â thrigolion, cynrychiolwyr busnes a Chynghorwyr Tywyn i glywed yn uniongyrchol am y pryderon cynyddol am gyflwr y promenâd a’r angen amlwg i atgyweirio a chryfhau’r amddiffynfeydd môr presennol ar y rhan bwysig hon o arfordir Meirionnydd. Mae’r promenâd o flaen Maes Carafanau Neptune mewn cyflwr gwael ac o ganlyniad, mae yna rwystrau sy’n atal mynediad hawdd i’r traeth. Gwnaethpwyd gwaith yn 2011 i gryfhau’r amddiffynfeydd morol, fodd bynnag mae rhannau eraill o lan y môr bellach yn dirywio’n gyflym gan arwain at ddadfeilio, concrit wedi cracio, strwythurau grwyn dan fygythiad a darnau o gerrig promenâd rhydd wedi’u gwasgaru ar draws y traeth. Er mai diogelwch y rhai sy'n mynd i'r traeth yw'r prif bryder ynghyd a'r erydiad sy'n gwaethygu, mae'r sefyllfa hefyd yn cael effaith andwyol ar yr economi ymwelwyr lleol ac mae'n ddealladwy bod busnesau'n poeni. Mae angen ateb hirdymor nid ateb tymor byr ar yr amddiffynfeydd môr yn Nhywyn. Hoffwn apelio ar Gyngor Gwynedd i weithio gyda’r gymuned leol a sefydliadau partner i archwilio’r holl opsiynau i ddatblygu cynllun cadarn a fydd yn cryfhau amddiffynfeydd arfordirol yn Nhywyn i gynnwys grwynau cynffon pysgod, morgloddiau wedi’u hatgyfnerthu a strategaeth ail-faethu traethau. Mae’n hanfodol bod pob cam yn cael ei gymryd i amddiffyn y gymuned rhag bygythiad cynyddol erydiad arfordirol tra’n cadw’r amddiffynfeydd môr hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-09-30 19:59:12 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.