Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn cefnogi ymgyrch am gofeb swyddogol yn Llundain i anrhydeddu peilotiaid a llywwyr yr Uned Ffotograffiaeth Rhagchwilio, oedd ag un o’r cyfraddau goroesi isaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gweithredodd uned y PRU weithrediadau casglu lluniau hynod beryglus a dirgel, gan gymryd dros 26 miliwn o ddelweddau o'r gelyn, a ddefnyddiwyd wedyn i gynllunio gweithrediadau fel D-Day.
...
Oherwydd natur cyfrinachol eu gweithrediadau, buont yn hedfan yn unigol, heb arfau. Roedd y gyfradd marwolaethau bron yn hanner cant y cant ac roedd disgwyliad oes y rhai a wasanaethodd yn y PRU tua dau fis a hanner.
...
Ymhlith y rhai a wasanaethodd yn yr uned ac a oroesodd y rhyfel, oedd Edward Gordon Bacon a fagwyd yn Stryd Bangor, Y Felinheli. Ymunodd â’r Awyrlu Brenhinol a gwasanaethodd fel Peilot gyda’r PRU yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu farw ym mis Rhagfyr 1986.
...
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
...
Rwy’n falch o gefnogi ymgyrch am gofeb swyddogol i gofio ac anrhydeddu peilotiaid Uned Rhagchwilio Ffotograffaidd yr Awyrlu, sy’n cael ei threfnu gan Brosiect Spitfire AA810. Hedfanodd y PRU deithiau cudd a pheryglus iawn i dynnu lluniau cudd-wybodaeth. Roedd eu hawyrennau di-arfog wedi eu gwagio i gludo cymaint o danwydd â phosibl. Am y rhesymau hyn, roeddent yn cynnwys gwrthwynebwyr cydwybodol ymhlith y criwiau. Roedd y gyfradd marwolaethau yn erchyll, gyda bron i 48% yn colli eu bywydau. Un a oroesodd y PRU oedd Edward Bacon o'r Felinheli ger Caernarfon. Mae’r prosiect yn awyddus i estyn allan at deuluoedd i gasglu eu straeon, fel bydd eu hanwyliaid yn fwy nag enw wedi’i gerfio ar gofeb rhyfel. A sôn am gofebion, mae'r prosiect hefyd yn ymgyrchu am gofeb genedlaethol yma yn San Steffan. Pan ddaw hyn i fodolaeth, gweddillion awyren PRU fydd ei ganolbwynt. Cafodd yr atgof hwn o ddewrder a pheryglon erchyll a wynebodd awyrenwyr y PRU ei gasglu fis diwethaf o awyren Mosquito a gafodd ddamwain ar yr Aran Fawddwy ym Meirionnydd 80 mlynedd yn ôl. Lladdwyd y peilot Marek Ostaja-Slonski o Awyrlu Gwlad Pwyl a’r llywiwr Paul Richs ar y safle tra ar ymarfer traws gwlad.
...
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
...
Mae’n anrhydedd cefnogi ymgyrch Spitfire AA810 i goffau’r dynion a’r merched a wasanaethodd yn yr Uned Rhagchwilio Ffotograffig (PRU) a’r rhan amhrisiadwy a chwaraewyd ganddynt wrth reoli cwrs yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliodd y rhai oedd yn gwasanaethu yn y PRU rai o weithrediadau casglu cudd-wybodaeth mwyaf beiddgar y rhyfel, gan ddioddef colledion erchyll. Eto i gyd, nid oes cofeb genedlaethol i anrhydeddu aberth yr oddeutu wyth cant o beilotiaid a llywwyr o'r DU a hedfanodd y teithiau cudd-wybodaeth hollbwysig hyn. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn olrhain hanes Edward Gordon Bacon o’r Felinheli, a oedd yn un o’r peilotiaid a wasanaethodd dan yr amodau hynod heriol hyn. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am ei fywyd ar ôl y rhyfel, er iddo oroesi a marw yn 1986. O ystyried y gefnogaeth gynyddol sydd y tu ôl i gofeb genedlaethol i goffau aelodau’r PRU, byddai’n briodol cydnabod cyfraniad Edward Bacon a darparu cymuned Y Felinheli gyda chyfle i ddysgu mwy am ei rôl anhunanol a’i gyfraniad anhysbys i raddau helaeth, i lwyddiant y cynghreiriaid. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cofio Edward i gysylltu â phrosiect Spitfire AA810. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’r prosiect i ddwyn pwysau pellach ar y llywodraeth i sefydlu cofeb i gydnabod dynion a merched y PRU.
...
Dywedodd Arweinydd y Prosiect Spitfire AA810, Tony Hoskins:
...
Am ryw 80 mlynedd ni chydnabuwyd gwaith y rhai a hedfanodd awyrennau diarfog, diamddiffyn ymhellach, yn uwch, a chyflymach na'r rhai a oedd wedi hedfan o'u blaen. Ar gyfer rôl sy'n dal i fod o bwysigrwydd milwrol hanfodol heddiw, mae gennym y peilotiaid a’r swyddogion cudd-wybodaeth a ddehonglodd ffotograffau i ddiolch am y rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw. Roedd eu haberth yn sylweddol, ac mae eu cyfraniad yn gydnabyddiaeth hir-ddisgwyliedig. Gyda'n cofeb arfaethedig yn fwy nag enwau ar wal yn unig, diolchwn i Liz Saville Roberts am ei chefnogaeth i gasglu straeon diddorol y dynion a'r menywod ifanc hyn, gan gynnwys y Peilot Edward Gordon Bacon o'r Felinheli, heb eu hymdrechion efallai byddai hanes y gorllewin wedi cymryd llwybr gwahanol iawn.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter