Liz yn cefnogi mam gydag ymgyrch i atal marwolaethau gyrrwyr ifanc

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor MeirionnyddLiz Saville Roberts wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch gan grŵp o famau, yn galw ar lywodraeth y DU i ddod â thrwyddedau gyrru graddedig i mewn i yrwyr ifanc sydd newydd gymhwyso.

Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan Crystal Owen, mam Harvey Owen, a gafodd ei ladd ynghyd â thri o’i ffrindiau pan adawodd eu car y ffordd ar dro a gorffen mewn ffos llawn dŵr ger pentref Llanfrothen ym mis Tachwedd 2023.
...
Cyfarfu Mrs Saville Roberts yn ddiweddar â Crystal Owen yn San Steffan i drafod ei hymgyrch, sy’n cynnwys deiseb a lofnodwyd gan dros 100,000 o bobl ac a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog yn Stryd Downing yn gynharach yr wythnos hon.
...
Dengys ystadegau bod 1 o bob 5 gyrrwr sydd newydd gymhwyso, mewn damweiniau yn ystod eu blwyddyn gyntaf o yrru, gyda gyrwyr ifanc mewn mwy o berygl o fod mewn damwain angheuol wrth gludo teithwyr o’r un oed. 
...
Mae bron i 5,000 o bobl yn cael eu hanafu’n ddifrifol neu’n cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau traffig sy’n cynnwys gyrrwr ifanc 25 oed neu iau bob blwyddyn yn y DU.
...
Mae ymgyrchwyr eisiau i yrwyr dan hyfforddiant rhwng 17 - 19 oed gael cyfnod dysgu o 6 mis o leiaf cyn bod yn gymwys i sefyll prawf ymarferol i gael profiad o wahanol ffyrdd a thywydd. 
...
Dywedasant hefyd ni ddylai gyrwyr sy’n dysgu gludo teithwyr 25 oed neu iau am y 6 mis cyntaf ar ôl pasio eu prawf (neu nes eu bod yn troi’n 20, pa un bynnag sy’n dod gyntaf), a dylai torri’r rheol hon arwain at 6 phwynt cosb, gan arwain at atal y drwydded ar unwaith a’r gofyniad i ailsefyll y prawf ymarferol. 
...
Bu Mrs Saville Roberts hefyd yn cyfarfod â'r elusen diogelwch ffyrdd BRAKE Ddydd Mercher i drafod sut y gall ASau gefnogi'r alwad am newidiadau i gyfraith trwydded yrru.
...
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:  
...
Mae dewrder Crystal Owen wrth arwain yr ymgyrch hon mor fuan ar ôl colli ei mab Harvey mewn amgylchiadau mor drasig yn gwbl gymeradwy. Cyfarfûm â Crystal yn San Steffan yn ddiweddar i drafod ei hymgyrch a pha gymorth y gallaf ei roi fel AS i helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch gyrru, yn enwedig ymhlith gyrwyr ifanc ar ffyrdd gwledig. Mae marwolaeth drasig Harvey, ochr yn ochr â thri o’i ffrindiau ger Llanfrothen yn fy etholaeth yn tanlinellu bod damweiniau ffordd yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc. Yn wir, mae cymaint o yrwyr ifanc mewn gwrthdrawiadau yn eu blwyddyn gyntaf o yrru. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Ffyrdd y DU i weld pa fesurau y mae ei llywodraeth yn eu harchwilio i wella diogelwch ffyrdd ymhlith gyrwyr ifanc, gan gynnwys budd trwydded yrru raddedig, wedi’i chynllunio i roi dull graddol o ennill breintiau gyrru llawn i yrwyr sydd newydd gymhwyso. Byddaf hefyd yn cyflwyno sylwadau i’m cyd-Aelodau yn Senedd Cymru i ymchwilio pa bwerau statudol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran gwella diogelwch gyrru ymhlith gyrwyr ifanc sydd newydd gymhwyso.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-04-04 11:37:23 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.