POLISI YG LLAFUR YN BYGWTH MEDDYGFEYDD LLEOL

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor MeirionnyddLiz Saville Roberts yn dweud na all rhai meddygfeydd yn ei hetholaeth fforddio llenwi swyddi allweddol oherwydd cynnydd diweddar Llafur yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Wrth siarad yn ystod Cwestiynau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, cyfeiriodd Mrs Saville Roberts at Feddygfa Treflan ym Mhwllheli sydd bellach yn wynebu costau ychwanegol o £19,000 yn dilyn mesurau a gyflwynwyd yn y Gyllideb.    
...   
Mae meddygon teulu wedi lleisio pryderon am effaith y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a gyhoeddwyd gan y Canghellor.
...
Mae’r GIG a gweddill y sector cyhoeddus wedi’u heithrio o’r codiad treth – ond nid yw hynny’n cynnwys cartrefi gofal preifat na hosbisau sy’n darparu gwasanaethau’r GIG, na meddygon teulu sy’n gweithredu fel busnesau.
...
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd Liz Saville Roberts AS: 
...
Dywed y BMA yng Nghymru fod cyllid meddygon teulu wedi gostwng fel canran o gyllideb llywodraeth Cymru o dros 2.6% ers 2005. Ni all Meddygfa Treflan ym Mhwllheli yn fy etholaeth i fforddio llenwi rolau staff allweddol. Bydd mesurau y gyllideb yn costio £19,000 ychwanegol iddynt. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwybod beth yw cyflwr y GIG yng Nghymru, felly pam mae hi’n allweddol i Lafur, ar ddau ben yr M4, fygwth meddygfeydd teulu?
...
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS: 
...
Mae gennyf bryderon difrifol am effaith y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar rai meddygfeydd teulu yn fy etholaeth yn Nwyfor Meirionnydd, sydd eisoes yn cael trafferth oherwydd tangyllido hanesyddol. Bydd y baich ariannol ychwanegol hwn yn rhoi mwy o bwysau ar ein darparwyr gofal sylfaenol. Yn yr un modd, mae cartrefi gofal yn cael eu trin fel busnesau preifat fel unrhyw un arall gan y Trysorlys. Bydd y cynnydd yng nghyfraniadau YG cyflogwyr yn cael ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ar draws darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, gan greu storm berffaith lle nad oes gan rai meddygfeydd unrhyw ddewis ond torri’n ôl ar wasanaethau gan na allant fforddio eu cynnal. Mae meddygfeydd teulu eisoes yn ei chael hi’n anodd recriwtio’r staff sydd eu hangen arnynt i gwrdd ag anghenion cleifion, felly bydd unrhyw rwystr ychwanegol i recriwtio yn peryglu’r broses o ddarparu gwasanaethau ymhellach. Rhaid i lywodraeth y DU ailystyried y polisi hwn ar fyrder.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-11-07 12:42:40 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.