PWYSO’R LLYWODRAETH NEWYDD AR SIGNAL FFÔN

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar lywodraeth y DU i roi diweddariad ar waith i wella cysylltedd symudol a seilwaith cyfathrebu yn ei hetholaeth wledig.

Yn ystod cyfarfod yn San Steffan gyda Gweinidog yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Chris Bryant AS, gofynnodd Mrs Saville Roberts am eglurder ar sawl agwedd ar wella cysylltedd yn ei hetholaeth wledig, a’r heriau a ddaw yn sgil hyn.

Anogodd Mrs Saville Roberts, sydd wedi lobïo’n llwyddiannus am welliannau i signal ffôn, y Gweinidog i bwyso ar y Swyddfa Gartref i droi mlaen cyfres o fastiau Gwasanaeth Ardal Estynedig (EAS) i wella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd anghysbell ac ar hyd ffyrdd sydd â dim signal ffôn o gwbl, megis yr A497, A487, A470, a'r A4212. 

Mynegodd bryderon hefyd am y newid arfaethedig i rwydwaith ffôn tir i un cwbl ddigidol a fydd yn defnyddio technoleg ffeibr yn lle’r Rhwydwaith Ffôn Newid Cyhoeddus (PSTN) presennol. Mae hyn yn achosi pryder ymhlith pobl hŷn a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell lle gallai problemau gyda signal rhwydwaith adael cymunedau heb gysylltedd ffôn digonol.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Roeddwn yn falch o’r cyfle i gwrdd â’r Gweinidog newydd i drafod cynnydd ar nifer o brosiectau cysylltedd pwysig yn Nwyfor Meirionnydd a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r gwaith hanfodol hwn. Ceisiais y wybodaeth ddiweddaraf am droi mlaen nifer o fastiau EAS, sydd eisoes wedi'u hadeiladu a'u cynllunio i ddarparu signal gwasanaethau brys hanfodol, gan wella signal symudol yn sylweddol mewn ardaloedd heb unrhyw ddarpariaeth, neu ddarpariaeth gyfyngedig iawn. Mae’r oedi parhaus cyn troi y mastiau hyn ymlaen yn amddifadu rhai o’n cymunedau mwyaf ynysig o fynediad at wasanaeth ffôn dibynadwy, ac yn atal y gwasanaeth brys rhag cael ei gyflwyno yn rhannau mwyaf gwasgaredig fy etholaeth. Codais bryderon hefyd am y newid o linellau ffôn copr i rwydwaith cwbl ddigidol a pha fesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i amddiffyn yr henoed a phobl bregus a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd heb signal ffôn symudol rhag yr heriau penodol sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau ffôn ffibr. Fy nealltwriaeth i oedd y byddai cwsmeriaid y nodwyd eu bod yn fregus boed hynny oherwydd iechyd, oedran, neu oherwydd eu hardal leol, yn cael eu hepgor o’r newid nes bod mesurau lliniaru digonol ar waith. Yr wyf eisiau sicrwydd cadarn mai felly y mae. Dylid darparu'r offer lliniaru angenrheidiol fel batris i bobl fregus er mwyn cynnal cysylltedd os bydd llifogydd neu doriadau trydan am gyfnod hir, er enghraifft. Pwysais hefyd ar y Gweinidog am bwysigrwydd technoleg crwydro neu ‘roaming’ mewn etholaeth wledig fel Dwyfor Meirionnydd, lle mae’r tirwedd yn peri heriau unigryw. Nid yw caniatáu i ddarparwyr eraill osod offer ar fastiau yn ddigon mewn parc cenedlaethol, yn enwedig lle mae caniatâd cynllunio’n cyfyngu ar uchder a chadernid mastiau ar gyfer offer lluosog. Mae ein heconomi yn dibynnu ar dwristiaeth ac nid yw pobl yn dewis eu darparwr ffôn symudol ar sail ble y byddant yn mynd ar wyliau, ond bydd angen iddynt ddefnyddio eu ffonau o hyd. Yn ogystal â’r ddau fater hyn, gwnes y pwynt na ddylai ardaloedd gwledig fod o dan anfantais anghymesur o ran cyflwyno mesuryddion clyfar. Rwy’n ymwybodol o achosion lle mae mesuryddion clyfar wedi’u gosod mewn ardaloedd heb signal 2G sy’n amlwg o ddim budd i’r cwsmer. Dylid annog unrhyw fenter i ehangu’r cyfrwng technolegol y mae mesuryddion clyfar yn gweithredu ynddo a galluogi pobl mewn ardaloedd mwy anghysbell i fanteisio ar gytundebau ynni gwell. Byddaf yn parhau i lobïo’r llywodraeth ar y materion penodol hyn fel nad yw trigolion, busnesau, ac ymwelwyr yn Nwyfor Meirionnydd bellach yn dioddef yn anghymesur o ran cael mynediad i gysylltedd digidol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-09 16:21:54 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.