RHAID CADW COED Y BRENIN YN NWYLO LLEOL MEDD MABON

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi ailadrodd ei alwad ar i lywodraeth Cymru gamu i mewn a chefnogi ymdrechion i gadw canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf y DU yng Nghoed y Brenin, mewn dwylo lleol.

Wrth siarad mewn dadl ar gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gau eu tair canolfan ymwelwyr, galwodd Mr ap Gwynfor ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies i gwrdd ag ymgyrchwyr lleol i drafod y ffordd ymlaen.

Dywedodd Mr ap Gwynfor pe bai llywodraeth Lafur Cymru wedi mabwysiadu deddfwriaeth sy’n rhoi blaenoriaeth i gymunedau lleol gyda’r hawl i brynu, yna ni fyddai’r ansicrwydd sydd bellach yn wynebu Coed y Brenin wedi codi.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Dwi'n gwybod bod y Gweinidog, neu'r Dirprwy Brif Weinidog, mae arnaf i ofn, wedi sôn yn y drafodaeth wythnos diwethaf nad y bwriad oedd cau'r canolfannau yma, ond y gwir ydy, pen draw'r hyn sy'n digwydd ydy mai cau byddan nhw. Yn wir, mae arnaf i ofn y bydd y ganolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin yn cau cyn y Nadolig, ar y rât yma, oherwydd mae pobl yn gwybod ei fod yn mynd i ddirwyn i ben erbyn mis Ebrill neu fis Mai, felly mae'r gweithlu sydd yno ar hyn o bryd yn chwilio am swyddi eraill, ac mi fydd y lle yn gorfod cau o ganlyniad. Rŵan, pan oeddwn i mewn trafodaeth gyhoeddus, mewn cyfarfod cyhoeddus efo Cyfoeth Naturiol Cymru nôl ym mis Chwefror, dywedwyd mai ymgynghoriad oedd hyn a doedd dim byd yn mynd i ddigwydd am ddwy neu dair blynedd. Rŵan, maen nhw'n edrych i wneud arbedion o £1.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol yma, sydd wedi achosi'r argyfwng yma. Felly, mae yna gwestiwn i ofyn: sut ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma, lle maen nhw mewn gwirionedd yn gorfod gwneud arbedion o £13 miliwn gyda £1.2 miliwn o'r arbedion yna yn y tair canolfan yna? Sut ydyn nhw wedi cael cyrraedd y sefyllfa yma? Mae sôn eu bod nhw am ei osod o allan i dendr, ond dydy hynny ddim am ddigwydd tan fis Mai, ac mae gennym ni beth sy'n cael ei alw'n cliff edge, onid oes, bryd hwnnw, lle bydd y gweithlu wedi mynd erbyn Ebrill, ac, os nad oes neb wedi cymryd y lle drosodd, er gwaethaf bod yna dendr yn mynd i fod, bydd y lle yn gorfod cau cyn bod rhywun arall yn gallu dod i'w ailagor, o bosib ymhen dwy flynedd. Dydy hynny ddim digon da. Pan fydd y lle wedi cau, fydd yn anos i'w agor. Bydd y brand wedi colli ei werth. Rŵan, y gwir hefyd amdani ydy pe bai Llywodraeth Cymru wedi cadw at eu gair—neu yn hytrach, Llafur Cymru—ac wedi mabwysiadu Deddf yn rhoi hawl cymunedol i brynu adnoddau, yna fuasai hyn ddim wedi digwydd. Mi fuasai mudiadau lleol wedi gallu cael y cais i brynu. Ond yn anffodus, ddaru i'r Blaid Lafur peidio cadw at eu haddewidion maniffesto, mewn dau faniffesto, ac mi ydym ni yn y sefyllfa yma lle nad ydy'r gymuned leol yn cael y flaenoriaeth. Hefyd, dwi am gyfeirio at un peth arall ddaru i Rhys Llywelyn, cadeirydd Caru Coed y Brenin ei ddweud. Mae'n ymddangos bod yna rywbeth wedi mynd ar goll yn y cyfieithu, oherwydd yn y Saesneg rydym ni'n cyfeirio at Natural Resources Wales, ac, yn y Gymraeg, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae 'resource', 'adnodd', yn sôn am rywbeth y gellir ei ecsbloetio, nad oes gymaint o werth iddo fo; mae'n bosib ei newid a'i addasu a'i werthu o. Mae 'cyfoeth' yn y Gymraeg yn golygu rhywbeth llawer iawn gwahanol, rhywbeth sydd yn berchen i ni. Ein cyfoeth naturiol ni ydy o. Pobl Coed y Brenin, pobl yr ardal yna, sydd wedi gwneud Coed y Brenin beth ydy o, ac mi ddylai Coed y Brenin aros yn rhan o berchnogaeth leol. Felly, fy mhle terfynnol i ydy: mae angen £1.2 miliwn ar Gyfoeth Naturiol Cymru am y cyfnod yma. A wnaiff y Llywodraeth, a wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog, ystyried rhoi'r £1.2 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru, naill ai fel benthyciad, neu fel rhodd, neu ryw ffordd arall, er mwyn eu clymu nhw drosodd am y cyfnod yma, er mwyn cadw'r canolfannau yna ar agor fel nad yw'r staff yn mynd, fel bod y ganolfan yn gallu gweithredu ac yna fod yna gyfle i gwmniau a busnesau cymunedol ddod ynghyd a chymryd perchnogaeth dros y flwyddyn nesaf? A hefyd a wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod efo fi chynrychiolwyr lleol i drafod hyn.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-11 14:32:36 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.