Faint yn fwy o farwolaethau cyn i'r llywodraeth weithredu ar ffordd yr A494

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi mynnu eglurder gan lywodraeth Lafur Cymru ynghylch beth, os o gwbl, y maent yn ei wneud i wella diogelwch ar yr A494 rhwng Dolgellau a Chorwen.

Mae Mr ap Gwynfor wedi ysgrifennu at lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad, ar ôl cael sicrwydd y byddai gwaith i asesu diogelwch yr A494 yn dechrau yn 2023, dim ond i gael gwybod yn ddiweddarach y byddai'n o leiaf 2025 cyn y byddai ymchwiliadau'n dechrau.

Mae pobl sy’n byw mewn cymunedau ar hyd yr A494 fel Rhydymain, Llanuwchllyn, Llanfor, a Glan-yr-Afon wedi cael eu siomi gan lywodraeth Cymru a addawodd y byddai camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar hyd y ffordd prysur.

Dywed pobl leol fod rhai gyrwyr yn goryrru mwy nag 80mya ar rannau o'r ffordd, sy'n ddrwg-enwog am droadau peryglus. Bu galwadau dro ar ôl tro am arwyddion newydd ac mae pryderon hefyd wedi’u lleisio am gambr y ffordd. 

Mae ffigurau Heddlu Gogledd Cymru yn datgelu, rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Gorffennaf 2023, bu cyfanswm o 2 o farwolaethau, 9 gwrthdrawiad difrifol a 3 gwrthdrawiad llai difrifol ar yr A494 gyda 19 o wrthdrawiadau difrod-yn-unig pellach a 34 o wrthdrawiadau an-hysbysadwy a adroddwyd i'r heddlu yn y cyfnod hwn.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:   

Mae’r A494 rhwng Dolgellau a Chorwen wedi gweld nifer o ddamweiniau difrifol ac angheuol ond nid yw’r gwaith a addawyd eisoes i wella diogelwch ar y ffordd hon wedi dechrau eto, er gwaethaf sicrwydd cyson gan Weinidogion. Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau ar hyd yr A494 wedi galw ers tro am fesurau i wella diogelwch ac erbyn hyn wedi cael llond bol ar addewidion yn cael eu torri. Ar ôl cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod gwaith i asesu diogelwch ar y ffordd hon ar y gweill, rydym yn dal i aros. Pan es ati i godi’r mater hwn gyda’r Prif Weinidog y llynedd, nid oedd ganddi unrhyw syniad beth oedd yn digwydd. Mae fy etholwyr am weld mesurau’n cael eu cyflwyno, nid esgusodion. Faint yn fwy o ddamweiniau fydd yn ei gymryd cyn i'r gwaith asesu ddechrau i fynd i’r afael â’r broblem? Darlleniad sobr iawn yw ffigyrau damweiniau gan Heddlu Gogledd Cymru. Mae pobl yn dal i gael eu hanafu a'u lladd ar y ffordd hon gyda thrigolion yn ofni ei defnyddio. Galwaf eto ar lywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen waith, gan gynnwys asesiad diogelwch cychwynnol cyn gynted â phosibl fel y gall fy etholwyr a defnyddwyr y ffyrdd fod yn sicr bod rhywbeth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Dywedodd Delyth Jones o’r Bala sydd wedi bod yn ymgyrchu ar y mater: 

Mae'r A494 trwy Lanfor yn ffordd 60 mya. Rwyf wedi bod yn gohebu â’r Asiantaeth Cefnffyrdd, Llywodraeth Cymru a ‘Gan Bwyll’ ers peth amser bellach oherwydd bod sawl peth sy’n gwneud yr A494 yn Llanfor yn eithriadol o beryglus. Dylid nodi bod nifer uchel iawn o ddamweiniau, gan gynnwys rhai angheuol, wedi digwydd dros y blynyddoedd ar y darn hwn o ffordd. Mae gyrwyr yn goryrru'n gyson ac yn goddiweddyd ar gyflymder uchel. Defnyddir y ffordd yn aml fel trac rasio gyda gyrwyr yn gwneud 80 i 100 mya. Ni roddir ystyriaeth i'r ffaith fod yna nifer o fynedfeydd i dai yn ogystal ag i'r pentref ei hun. Mae gyrru a goddiweddyd ar gyflymder o fwy na 60 mya yn ei gwneud hi'n beryglus iawn i'r rhai sy'n ceisio cael mynediad i'r ffordd fawr. Mae yna hefyd lwybr troed sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r ffordd o Lanfor i’r Bala, a ddefnyddir yn ddyddiol gan blant ysgol a thrigolion. Nid oes rhwystr diogelwch rhwng y ffordd a’r llwybr troed. Dylem fod yn ymwybodol bod anifeiliaid fferm a cherbydau’n defnyddio’r ffordd. Mae gwartheg Stad Rhiwlas yn croesi'r ffordd yn rheolaidd, a does dim marciau terfyn cyflymder a dim goleuadau i ddangos pryd mae da byw yn croesi. Mae’n bryd i’r awdurdodau gymryd sylw a gwneud rhywbeth i sicrhau diogelwch pawb sy’n defnyddio’r A494, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Bu Mr ap Gwynfor hefyd yn cyfarfod â'r elusen diogelwch ffyrdd, Brake i drafod pryderon.

Dywedodd Luca Straker, Rheolwr Ymgyrchoedd Brake, yr elusen diogelwch ffyrdd:

Mae damweiniau ar y ffyrdd yn cymryd bywydau, yn dinistrio teuluoedd ac yn achosi anafiadau sy'n newid bywydau. Mae’n gwbl annerbyniol bod bywydau pobl yn cael eu cwtogi neu eu newid am byth oherwydd damweiniau ffordd y gellir eu hatal. Rhaid rhoi terfyn ar hyn. Mae arnom angen ffocws ar y cyd ar leihau marwolaethau ac anafiadau trychinebus ar y ffyrdd. Mae hyn yn gofyn am dargedau uchelgeisiol i roi terfyn ar y marwolaethau a ffocws ar systemau diogel, gan gynnwys terfynau cyflymder priodol ar bob ffordd, buddsoddiad mewn diogelwch cerbydau a seilwaith, a chyllid i helpu i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd. Mae Brake, yr elusen diogelwch ffyrdd, yn galw ar bob un ohonom i weithredu rwan a gwneud yn siŵr nad oes yn rhaid i unrhyw deulu neu gymuned arall fynd trwy'r un profiad y flwyddyn nesaf.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-02-25 12:55:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.