Gwynedd i fuddsoddi mewn neuadd gelfyddydol, gymunedol ac addysgol ym Mhwllheli

Bydd buddsoddiad o dros £500,000 yn digwydd i adeilad celfyddydol eiconig ym Mhwllheli, er lles trigolion Llŷn a’r ardal yn ôl aelod cabinet Plaid Cymru dros gymunedau a datblygu economi ar Gyngor Gwynedd, Gareth Thomas yr wythnos hon (10 Mawrth).

Cefnogodd cabinet Cyngor Gwynedd argymhelliad y Cynghorydd i fuddsoddi £570,000 yn Neuadd Dwyfor gan gynnig darpariaeth amlbwrpas flaengar o fewn y gofod i drigolion lleol ar ffurf theatr, sinema a llyfrgell.

Yn dilyn gwaith achos busnes manwl dros y misoedd diwethaf rhwng swyddogion y Cyngor ar y cyd ag aelodau o’r gymuned leol, gwelwyd bod potensial i gynyddu’r 52,000 o ddefnyddwyr* sy’n ymweld â Neuadd Dwyfor yn flynyddol wrth wella’r ddarpariaeth ar y safle.

“Mae’n gyfnod cyffrous i dref Pwllheli, ac i Neuadd Dwyfor,” eglura’r Cynghorydd Gareth Thomas.

“Wedi cyfnod o bryder ynglŷn ag ariannu’r adnodd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf, dwi’n falch iawn bod cynllun manwl mewn lle a buddsoddiad ariannol yn cael ei sicrhau i’r adeilad diwylliannol, cymunedol ac addysgol yma.

“Wedi’r penderfyniad, gallwn fynd ati i roi’r cynllun ar waith dros y misoedd nesaf i edrych ar ail ddylunio a dodrefnu gofod y Llyfrgell a chreu toiled sy’n fwy hwylus ar gyfer defnyddwyr. Bydd y cyntedd yn cael ei adnewyddu i greu gofod mwy croesawgar a chreu caffi a bar ar y lleoliad i fynychwyr ei ddefnyddio a’i fwynhau.

“Hefyd, bydd seddi mwy cyfforddus sy’n symud i’w lle ac yn symud o’r neilltu i sicrhau bod gofod hyblyg ar gael ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau amrywiol o fewn y theatr. A bydd balwstrad gwydr yn cael ei ychwanegu i’r balconi i ddiogelu cynulleidfa a gwella profiad ymwelwyr sy’n gwylio perfformiadau o’r seddi.

“Wrth gwrs, bydd angen cefnogaeth gan y gymuned i wireddu’r weledigaeth sydd gennym ar gyfer y Neuadd, gan mai eu hadnodd nhw yw Neuadd Dwyfor yn y pen draw. O wella’r adnoddau, y gobaith yw y bydd trigolion lleol yn perchnogi’r gwaith o ddefnyddio a hyrwyddo’r lleoliad, ac yn manteisio ar neuadd amlbwrpas sy’n hwb i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig yn yr ardal.

“Mae’n adnodd pwysig hefyd ar gyfer y miloedd o ymwelwyr sy’n dod i’r ardal yn flynyddol.

“Dwi’n edrych ymlaen at ymweld â Neuadd Dwyfor yn ystod yr hydref i weld yr adeilad ar ei newydd wedd,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.