Mae arweinwyr cymunedol yng Ngwynedd wedi cyhuddo Swyddfa’r Post o droi cefn ar gymunedau gwledig wrth i’r gwasanaeth gadarnhau ei fod yn cael gwared ar wasanaethau allgymorth symudol mewn un ar hugain o gymunedau ar draws y sir.
Mae cael gwared ar y ddarpariaeth yma yn golygu na fydd cymunedau Efailnewydd, Llanaelhaearn, Bryncir, Llithfaen, Pantglas, Abererch, Minffordd, Borth y Gest, Nasareth, Llanfrothen, Y Fron, Rhosgadfan, Llangybi, Talysarn, Edern, Blaenau Ffestiniog, Chwilog, Gellilydan, Garn, Morfa Bychan, Sarn, Llanfair, a Llanbedr yn cael eu gwasanaethu gan fan allgymorth y Swyddfa Bost mwyach.
Mae’r toriadau hyn yn ychwanegol at gau Swyddfa Bost Cricieth a’r bygythiad parhaus i Swyddfa Bost y Goron yng Nghaernarfon.
Mae gwleidyddion lleol Plaid Cymru yn San Steffan a’r Senedd wedi cyhuddo Swyddfa’r Post o fynd allan o’u ffordd i wneud bywyd yn galetach i’w cwsmeriaid ffyddlon ar adeg pan ddylai eu ffocws fod ar adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd
Dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd):
Mae’r penderfyniad i gael gwared ar un ar hugain o’r pump ar hugain o wasanaethau swyddfa post symudol ar draws ein hetholaeth yn annirnadwy a dweud y lleiaf. Mae’r rhain yn un ar hugain o gymunedau gwledig yn bennaf, a fydd yn awr yn cael eu hamddifadu rhag cael mynediad i wasanaethau Swyddfa’r Post yn agos at adref. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i lawer o gymunedau yn ein hetholaeth, gan alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau Swyddfa’r Post heb fod angen teithio’n bell. Mae’r gwasanaeth yn arbennig o bwysig i’r henoed, pobl fregus, a’r rhai nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. O ystyried bod Swyddfa’r Post wedi ymrwymo i sicrhau bod 95% o gyfanswm y boblogaeth o fewn tair milltir i gangen Swyddfa’r Post, a bod 95% o boblogaeth pob ardal cod post o fewn chwe milltir i gangen, rydym am wybod sut ar y ddaear maent yn bwriadu cynnal yr ymrwymiadau hyn o ystyried y toriadau dinistriol yma. Rydym hefyd yn ceisio eglurder ynghylch a oes unrhyw ymgynghori ystyrlon wedi digwydd gyda’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt gan y toriadau hyn. Ni fydd pobl yn ein hetholaeth yn cael eu twyllo gan ymddiheuriadau gwag. I ddyfynnu Swyddfa’r Post, mae hyn yn sylweddol fwy nag ‘anghyfleustra’ yn unig, dyma’r diweddaraf mewn llinell hir o doriadau i wasanaethau rheng flaen dros y cownter heb fawr o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffactorau lleol megis mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, tlodi digidol, neu anghenion penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yr hyn sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yw bod y difrod i enw da Swyddfa’r Post yn dilyn sgandal Horizon yn arwain at ddirywiad cyflymach mewn mynediad at wasanaethau i bobl sy’n byw mewn nifer cynyddol o gymunedau.
Dywedodd Siân Gwenllian AS (Arfon):
Unwaith eto, profwyd nad yw cymunedau gwledig, ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Cymru ddim o bwys i sefydliadau cenedlaethol mawr fel Swyddfa’r Post. Cyhoeddodd Hywel Williams, cyn AS Arfon adroddiad y llynedd a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan, yn nodi cyflog isel, cyflogaeth ansicr, a phremiwm costau byw gwledig - yn deillio o gostau tai, ynni a theithio uchel - fel materion o bwys yn Arfon. Bydd y tlodi gwledig hwn, a’r teimlad cyffredinol o arwahanrwydd yn cael eu gwaethygu gan benderfyniad Swyddfa’r Post. Bydd fy etholwyr yn Nasareth, y Fron, Rhosgadfan, a Thalysarn wedi cael llond bol ar wasanaethau yn symud ymhellach oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu. Yr hyn y mae Swyddfa’r Post yn ei ddweud wrth y bobl hyn yw: oherwydd nad ydych chi’n byw mewn lle poblog, nid ydych o bwys. Ac mae hynny'n gywilyddus.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter