Gwella Band-llydan

Mae band llydan cyflym (o leiaf 25 mbps) yn un o hanfodion bywyd modern: ar gyfer gwaith, astudio, derbyn gwasanaethau ar lein a hamdden.

Yn anffodus mae Dwyfor Meirionnydd ymhlith yr ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu waethaf gan y ddarpariaeth band-llydan drwy’r Deyrnas Gyfunol.

Os ydym am gryfhau economi gwledig ac arfordirol Cymru, yna rhaid cael band-llydan sydyn ac effeithiol. Ni ddylai’r un ty gael ei adael ar ol. Fel dwr a thrydan, rhaid hefyd cael band llydan yn y dydd sydd ohoni.

Galwn ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau fod y ddarpariaeth band llydan yn cyrraedd pob aelwyd ac nad oes neb yn cael eu gadael ar ol.

Rhowch eich enw i'r ddeiseb yma


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Elsie Evans
    commented 2021-03-06 12:39:00 +0000
    Mae diffyg wifi cyflym yn effeithio’n arw ar ein busnes, a chwsmeriaid yn gadael i fynd i fannau gyda wifi gwell. Hefyd, mae ceisio rhedeg busnes gyda chyswllt mor araf yn hynod rwystredig, ac rwy’n heneiddio cyn fy amser.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Ymgyrchoedd 2021-02-09 17:28:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.