Mae’r gwaith o atgyweirio’r ffordd wledig sy’n arwain at Borth Meudwy yn Uwchmynydd, Aberdaron wedi dechrau, yn dilyn tirlithriadau yn ystod yr hydref ar y ffordd bwysig sy’n arwain pysgotwyr, gweithwyr ac ymwelwyr i Ynys Enlli.
Mae buddsoddiad o £170,000 wedi ei glustnodi o Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, diolch i waith y Cynghorydd Sir dros yr ardal, Gareth Roberts.
“Roedd pryder ac ansicrwydd ynglŷn â chyfrifoldeb pwy oedd y ffordd bwysig hon, ai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli neu Gyngor Gwynedd.
“Wedi trafod gyda’r Aelod Cynulliad lleol a swyddogion Gwynedd, bûm yn gohebu â Llywodraeth Cymru i chwilio am gefnogaeth ariannol. Dwi’n falch iawn bod y Llywodraeth wedi cytuno i gefnogi’r economi wledig hon yng Ngwynedd.
“Mae’r lleoliad yma’n hollbwysig i gerbydau’r pysgotwyr allu teithio i lawr i’r cildraeth yn cario cewyll cimychiaid, tanwydd a’i hoffer angenrheidiol i bysgota am gimychiaid a chrancod yn y môr.
“Mae’r cildraeth hefyd yn bwysig i gario’r holl nwyddau ac offer sydd eu hangen i ymwelwyr, gweithwyr a ffermwyr ymweld a byw ar Ynys Enlli. Ac wrth gwrs, gyda’r tymor twristaidd ar ein gwarthau, dyma’r man lle mae’r cwch yn glanio i godi’r miloedd o ymwelwyr dydd sy’n teithio i’r ynys yn ystod y flwyddyn.
“Mae pum pysgotwr o Lŷn yn ddibynnol ar yr incwm maen nhw’n ei ennill o weithio’r môr yn y lleoliad yma, felly mae’n newyddion da iawn bod y gwaith atgyweirio wedi dechrau.”
Glaw trwm a llifogydd ym mis Tachwedd llynedd achosodd y tirlithriad a difrod i'r ffordd, a dim ond ar droed oedd modd cyrraedd y môr cyn y Nadolig. Wedi i beirianwyr arbenigol asesu'r difrod, cyhoeddwyd y byddai angen swm sylweddol o arian i atgyweirio’r ffordd.
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Roberts: “Bydd rhywfaint o anghyfleustra yn y lleoliad wrth i’r contractwyr fwrw malen gyda’i gwaith, ond sefyllfa dros dro fydd hon i ni. Wedi atgyweirio’r ffordd ym Mhorth Meudwy bydd modd i bobl deithio i Enlli i fyw, gweithio, aros yno dros dro ac ymweld.
“Mae’r ynys yn lle bendigedig ac yn sicrhau gwaith amaethu, pysgota, cadwraeth bywyd gwyllt, treftadaeth a thwristiaeth. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dod i ben, a’r ffordd yn glir eto i gerbydau deithio ar ei hyd yn ddiogel.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter