Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar lywodraeth Cymru i gamu i mewn i ddiogelu dyfodol canolfan beicio mynydd enwog, Coed y Brenin.
Wrth siarad yn y Senedd cyn rali yng Nghoed y Brenin y penwythnos hwn, galwodd Mr ap Gwynfor ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r £1.2 miliwn angenrheidiol i Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal eu holl ganolfannau ar gyfer eleni er mwyn rhoi amser i’r rhai sy’n fodlon cymryd drosodd y safleoedd i roi eu cynlluniau busnes at ei gilydd.
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mae gan Gymru weledigaeth ac arweiniad sydd wedi esgor ar ddiwydiant sydd yn werth cannoedd o filiynau o bunnoedd bellach i'r economi Brydeinig, sef beicio mynydd lawr elltydd—downhill mountain biking. Oherwydd gellir dweud i hyn ddechrau yng nghanolfan godidog Coed y Brenin, ger Ganllwyd, Meirionnydd. Os nad ydych chi wedi bod yno, Ysgrifennydd Cabinet, yna mi fuaswn i'n eich annog chi i ymweld â'r lle. Mae o'n wirioneddol odidog o le, ac mae o wedi magu statws ac enw sydd yn cael eu hadnabod yn rhyngwladol. Yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae beicio mynydd lawr allt yn cyfrannu hyd at £150 miliwn at economi'r wlad. Does yna ddim asesiad cyffelyb wedi cael ei wneud yma yng Nghymru eto, ond gellir bod yn sicr bod y sector yma yn cyfrannu gwerth degau o filiynau o bunnoedd, beth bynnag arall, i economi Cymru.348
Ond mae man geni'r sector yma, crud y sector, sydd yn parhau i fod yn atyniad poblogaidd, sef Coed y Brenin, bellach o dan fygythiad. Pan ysgrifennwyd yr adroddiad yma, roedd yna ansicrwydd ynghylch dyfodol y canolfannau ymweld. Mae pethau wedi newid bellach, ac mae'r corff, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn edrych i gau canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin, Nant yr Arian—canolfan beicio arbennig arall, gyda llaw—ac Ynyslas, er mwyn gwneud arbedion o £1.2 miliwn y flwyddyn ariannol yma. Er mai edrych i gau'r canolfannau ymwelwyr mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwir ydy y byddai cau'r canolfannau ymwelwyr yn cael effaith andwyol ar y llefydd yma fel atyniadau i ymwelwyr, ac yn effeithio ar waith cynnal a chadw'r llwybrau hefyd. Er nad ydym ni'n gwybod beth ydy gwerth ariannol beicio mynydd lawr allt i economi Cymru, mae asesiad wedi cael ei wneud o werth economaidd y canolfannau yma i economi canolbarth Cymru, ac maen nhw'n cyfrannu hyd at £67 miliwn i economi'r rhanbarth.349
Rwy'n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru o dan bwysau ariannol sylweddol ond mae grwpiau lleol, profiadol a deallus yn barod i gydweithio efo'r corff er mwyn cymryd yr asedau yma ymlaen. Y drafferth ydy fod amserlen dynn iawn wedi cael ei gosod ar Gyfoeth Naturiol Cymru a bydd staff y canolfannau ymwelwyr yn cael eu gwneud yn ddi-waith erbyn mis Ebrill. Unwaith y bydd hyn yn digwydd a'r canolfannau'n cau yna bydd yn anos ailagor y canolfannau, ac felly, wrth gwrs, mae amser yn brin.350
Os ydym ni am warchod y perlau yma, sydd yn denu cynifer o bobl, a sicrhau eu bod nhw yn parhau i gyfrannu dwsinau o filiynau o bunnoedd i economi'r rhanbarth, yna mae'n rhaid i'r Llywodraeth gamu i'r adwy. Y cais, felly, sydd gen i yw i'r Llywodraeth roi'r £1.2 miliwn angenrheidiol yma i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal y canolfannau am y flwyddyn hon a rhoi amser i'r cwmnïau roi cynllun busnes ynghyd ac i fynychu a bod yn rhan o'r broses dendro heb fod y canolfannau yn cau. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno mai cyfraniad bach iawn fyddai hynny er mwyn cynnal yr atyniadau gwerthfawr yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter