GALWADAU AR FWRDD IECHYD I DDIOGELU DARPARIAETH GWELYAU NYRSIO YM MHEN LLŶN

Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr droi pob carreg i sicrhau bod darpariaeth gwelyau nyrsio yn cael ei gynnal ym Mhen Llyn yn dilyn cyhoeddiad fod Cartref Nyrsio y Pwyliaid ger Pwllheli yn cau, yn ôl gwleidyddion lleol.

Cyhoeddodd Cymdeithas Cartrefi Gwlad Pwyl, sy'n berchen ar safle Penrhos ger Pwllheli, y bydd y safle'n cau erbyn Mawrth 2021.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd 2021 a’r ymgyrchydd iechyd Mabon ap Gwynfor,

'Mae'n drist iawn bod Cymdeithas Cartrefi Gwlad Pwyl wedi penderfynu na allant gynnal y safle mwyach. Maent wedi bod yn rhan annatod o'r gymuned ers degawdau lawer ac wedi gwasanaethu'r gymuned yn dda.'

'Fodd bynnag, mae Penrhos yn fwy na Chartref Pwylaidd, mae hefyd yn gartref nyrsio ym Mhen Llyn ac yn sicrhau bod preswylwyr oedrannus sydd angen gofal nyrsio yn gallu byw ym Mhen Llyn yn agos at eu hanwyliaid.'

'Mae gwir angen gwelyau nyrsio ar yr ardal ac mae'n ddyletswydd ar y Bwrdd Iechyd lleol i droi pob carreg i sicrhau bod darpariaeth gwelyau nyrsio yn parhau yn y rhan wledig yma o ogledd orllewin Cymru.'

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts

'Mae galw amlwg am welyau nyrsio ym Mhen Llyn. Nid oes darpariaeth arall o'r fath yma. Byddai'n annerbyniol disgwyl i berthnasau ac anwyliaid oedrannus wynebu teithio'n bell ar ein rhwydwaith ffyrdd gwledig i ymweld â phobl mewn cartrefi nyrsio ym mhell i ffwrdd.'

'Dyma pam rydym yn galw ar y Bwrdd Iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i weithio ar frys gyda rhanddeiliaid eraill a sicrhau y bydd darpariaeth gwelyau nyrsio yn cael ei gynnal yma.'

Ychwanegodd y Cynghorydd Angela Russell, sy'n cynrychioli yr ardal ar Gyngor Gwynedd, 

'Mae llawer o deuluoedd yma yn hynod ddiolchgar i Gymdeithas Cartrefi Gwlad Pwyl am y gofal y maent wedi'i roi i'w hanwyliaid dros y degawdau a bydd yn ddiwrnod trist iawn pan fydd y sefydliad yn cau.'

'Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwelyau nyrsio yn cael eu cadw yma. Mae gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru y gallu i sicrhau bod gofal nyrsio ar gael. Ni allant droi eu cefnau ar Ben Llyn.'

Gellir arwyddo'r ddeiseb yn galw ar gadw gwelyau nyrsio ym Mhen Llyn yma.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.