GALWAD AM STRATEGAETH STROC CENEDLAETHOL I GYMRU

 

Mae galwadau wedi ei gwneud am Strategaeth Strôc Genedlaethol newydd i Gymru, sy'n blaenoriaethu anghenion cleifion, a sicrhau gofal yn agosach i'w cartref gan ei gwneud hi'n haws i oroeswyr strôc dderbyn addasiadau i'r cartref. 

Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi rhybuddio y gallai cymunedau gwledig ddioddef yn anghymesurol pe bai Llywodraeth Cymru yn gohirio ymhellach cyhoeddi strategaeth strôc newydd ar gyfer Cymru. 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor: 

‘Daeth y cynllun strôc blaenorol ar gyfer Cymru, Cynllun Strôc Llywodraeth Cymru, i ben y llynedd ac nid ydynt wedi datblygu cynllun newydd.’ 

‘Mae angen rhoi sylw brys i hyn fel y gall darparwyr gwasanaeth gynllunio ymlaen llaw, ac fel y gall y llywodraeth gydweddu gofynion eu Cynllun Strôc Cenedlaethol â sefydliadau a phrosiectau eraill i sicrhau gwasanaeth gofal di-dor ac integredig.’ 

‘Mae gennym ni oddeutu 1,400 o oroeswyr strôc yn Nwyfor Meirionnydd, ac maent angen sicrwydd ar sut fydd pethau yn y dyfodol o ran gofal a ffisiotherapi.’ 

‘Mae taer angen mwy o welyau adfer arnom, fel y gall goroeswyr gael mynediad at ofal yn agosach at adref. Mae cyfle i lenwi’r bwlch hwn gyda’r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhos, a gobeithiaf y bydd y bwrdd iechyd yn edrych ar hyn fel opsiwn.’ 

‘Ond mae angen mwy o welyau ar Meirionnydd hefyd, sydd yn aml yn colli allan o ran darpariaeth iechyd, i ganiatáu i oroeswyr adfer yn agosach at adref.’ 

‘Mae angen mynediad at wasanaethau adfer o ansawdd da ar oroeswyr strôc, a dylai fod gan bobl hawl i wasanaethau adfer amserol ac addasiadau i'w cartref heb orfod ymladd drostyn nhw.’ 

‘Mae hyn yn golygu darparu cyllid priodol i’n Cynghorau Sir, sydd wedi dioddef degawd o doriadau andwyol, ac ymdrech i hyfforddi a recriwtio mwy o therapyddion galwedigaethol.’ 

'Rwy'n falch fod AS Plaid Cymru Dr Dai Lloyd, sy'n wreiddiol o Ddinas Mawddwy, wedi bod ar flaen y gad o ran galwadau i sicrhau Cynllun Strôc Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru, a gobeithiaf gael y cyfle i sicrhau bod y llywodraeth yn cyflawni hyn.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-03-26 14:13:17 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.