Galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i fynd i’r afael â sgandal ail gartrefi

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i fynd i’r afael â pherchnogion ail gartrefi sy’n defnyddio bwlch cyfreithiol i osgoi talu treth cyngor.

Daw ymyriad Siân Gwenllian a Liz Saville Roberts wrth i ffigyrau ddatgelu fod bron i wyth gant o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd wedi cofrestru eu heiddo fel busnes, gan eu heithrio rhag talu treth y cyngor a threthi busnes. Mae hyn, ar adeg pan fo 2,000 o deuluoedd ar y gofrestr aros am dai yng Ngwynedd.

Mae AC Arfon, Siân Gwenllian, bellach wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad brys gan erfyn arnynt i fynd i’r afael â pherchnogion ail gartrefi sy’n manteisio ar y system.

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

‘Bellach mae 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd – mwy nag mewn unrhyw sir arall yng Nghymru. Yn ddiau, mae rhai perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu at yr economi leol, ond ychydig iawn sy’n cael ei wario yn ein siopau a’n busnesau gan nifer o’r perchnogion yma. ‘

‘Ond, mae wyth gant o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd yn osgoi talu trethi trwy fanteisio ar fwlch cyfreithiol a chofrestru eu heiddo fel busnes. I rwbio halen yn y briw, maent hefyd wedi’u heithrio rhag talu trethi busnes o ganlyniad i anghysondebau yn y system.’

‘I fod yn gymwys fel busnes, rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w osod am 140 diwrnod y flwyddyn. Nid yw’n glir sut mae hyn yn cael ei fonitro ac rwy’n clywed straeon o berchnogion yn cymryd mantais o’r rheol hon a gosod yr eiddo i deulu neu ffrindiau.’

‘Mae hyn yn warthus, ac mae angen rhoi terfyn arno. Tra bod yr arfer anfoesol yma yn cael rhwydd hynt i barhau, mae gennyf etholwyr sy’n dod i fy ngweld yn erfyn i gael eu symud i dai cymdeithasol o eiddo sy’n gwbl anaddas.’ ‘Nid yw prynu tŷ yn opsiwn i sawl un sydd ar y gofrestr aros, ac mewn nifer o ardaloedd, mae’r ganran uchel o ail gartrefi hyd yn oed wedi gwthio prisiau tai tu hwnt i gyrraedd teuluoedd lleol sydd ar gyflogau cyfartalog.’

Dywedodd Liz Saville Roberts AS,

‘Ni ellir tanbrisio effaith ail gartrefi ar fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd. Rwy’n gwybod yn iawn pa mor rhwystredig yw hi i bobl ifanc sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn eu cymunedau eu hunain.’

‘Mae ail gartrefi yn cynyddu prisiau tai tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol. Os bydd y patrwm yma yn parhau, yna bydd mwy o deuluoedd a phobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau gan arwain at oblygiadau niweidiol iawn i fywyd cymunedol.’

‘Tra bod cynghorau lleol yn cael eu gorfodi i gynyddu’r treth cyngor i lenwi’r diffyg yn eu cyllidebau, mae’n gwbl annerbyniol fod rhai yn elwa ar wasanaethau lleol tra’n talu dim i’r coffrau cyhoeddus.’

‘Mae’n iawn fod cwestiynau’n cael eu gofyn ynglŷn a pham fod trethdalwyr Cymru yn gorfod sybsideiddio y rheiny sy’n berchen ar ail gartrefi.’

‘Mae tai, cynllunio a trethi busnes wedi eu datganoli, ac mae’n ddyletswydd felly ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio’i pwerau i fynd i’r afael â’r annhegwch sylfaenol sy’n cael ei amlygu gan y farchnad ail gartrefi yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.