Becky Williams yn cefnogi galwadau i sefydlu canolfan rhanbarthol canser
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau diagnosteg canser yng ngogledd Cymru trwy sefydlu canolfan ranbarthol yng Ngwynedd, yn sgil ffigyrau diweddar yn amlygu cyfraddau marwolaeth ledled y DU.
Cefnogwyd eu galwadau gan Becky Williams, gweddw Irfon Williams a fu’n arwain ymgyrch Hawl i Fyw.
Dengys ffigurau marwolaethau sydd newydd eu rhyddhau mai canser yw prif achos marwolaeth yng ngogledd Cymru, gyda 2,291 o'r 8,156 o farwolaethau a gofnodwyd o ganlyniad i ganser.
Mae Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd yn y Cynulliad, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan ddiagnostig yng Ngwynedd i atal marwolaethau cyn-amserol, gan nodi treialon llwyddiannus yn ne Cymru fel enghreifftiau o sut mae canolfannau diagnostig yn achub bywydau.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor,
‘Canser oedd prif achos marwolaethau yn Nwyfor Meirionnydd yn 2018. Roedd yn cyfrif am 28% o’r holl farwolaethau yn yr etholaeth. Roedd 41% o holl farwolaethau ardal Dolgellau oherwydd canser yn 2018.’
‘Ond oherwydd ein daearyddiaeth, mae cleifion o Ddwyfor Meirionnydd yn gorfod teithio llawer pellach i dderbyn eu triniaeth, gyda’r mwyafrif yn gorfod mynd i Glan Clwyd.’
‘Rydym yn gwybod bod diagnosis cynnar yn hanfodol i wella canlyniadau i gleifion. Dyma pam mae angen i ni gyflwyno mwy o ganolfannau diagnostig ledled Cymru, yn enwedig yma yng nghefn gwlad gogledd Cymru.
‘Mae Llywodraeth Cymru wedi treialu canolfannau diagnostig cyflym yn nwy ardal byrddau iechyd de Cymru ac maen nhw wedi cael llwyddiant ysgubol’. Dengys ymchwil bod Canolfannau Diagnosis Cyflym yn lleihau amser tan ddiagnosis o 84 diwrnod i 6 diwrnod.’
‘Mae cleifion yn Nwyfor Meirionnydd ac ar draws gogledd Cymru yn haeddu gwasanaeth cydradd, a dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn natblygiad canolfannau diagnostig yma i sicrhau diagnosis cynnar a chanlyniadau gwell i’n cleifion.’
Ychwanegodd Becky Williams,
‘Rwy’n llwyr gefnogi galwad Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yng ngogledd Cymru.’
‘Mae Cymru â rhai o’r canlyniadau gwaethaf yn Ewrop ar gyfer canser y colyddun a gwyddom fod diagnosis a thriniaeth cynnar ar gyfer pob math o ganser yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.’
‘Yn syml, diagnosis cynnar yw’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter