Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd a llefarydd Iechyd a Gofal y Blaid, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar y Prif Weinidog i egluro i’w etholwyr pa gamau sy’n cael eu cymryd i ailagor ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn.
Wrth siarad yn y Senedd, atgoffodd Mr ap Gwynfor y Prif Weinidog nad oes unrhyw gynnydd yn recriwtio nyrsys i staffio’r ward cleifion mewnol wedi bod ers iddi ymweld â’r ysbyty cymunedol fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd Mr ap Gwynfor fod etholwyr ym Mro Dysynni a Thywyn yn cael eu hanfon yn rheolaidd i ysbytai Dolgellau a Bronglais i gael mynediad at y gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt gan fod BIPBC wedi methu â recriwtio staff nyrsio newydd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mi fyddwch chi’n ymwybodol o’r trafferthion ym Mro Dysynni, ardal Tywyn, yn ne Meirionnydd. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i chi am eich ymweliad chi pan oeddech chi’n Ysgrifennydd Cabinet iechyd yn dod i ymweld â’r ysbyty rhyw ddwy flynedd yn ôl, ond ers eich ymweliad chi ddwy flynedd yn ôl, does dim byd wedi newid. Mae adran ward Dyfi yn yr ysbyty yn parhau ar gau ac mae hynny oherwydd diffyg nyrsys yno a methiant y bwrdd iechyd i sicrhau nyrsys newydd; er gwaethaf y rhaglen Kerala a’r ffaith fod yna nyrsys o Kerala wedi dod i Ddolgellau, dydyn ni ddim wedi gweld niferoedd digonol o nyrsys yn Nhywyn. Mae’r adran yn parhau ar gau. Ond mae yna gleifion o Fro Dysynni a Thywyn yn parhau i fod yn ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, mae yna eraill yn ysbyty Dolgellau, felly mae’r galw yn lleol. Mae angen i ni weld gweithredu ar gael mwy o nyrsys yma yng Nghymru, wedi'u hyfforddi yma, ar gyfer ein hysbytai cymunedol. Felly, pa ymrwymiad allwch chi ei roi i fi heddiw ein bod ni'n mynd i weld y nyrsys yna'n cael eu cyflogi yn Nhywyn?
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
Roeddwn i'n ymwybodol iawn bod y ward yna yn Ysbyty Tywyn wedi cau, a bod mwy o welyau ar gael nawr yn Nolgellau, a byddan nhw, gobeithio, yn helpu. Dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn awyddus iawn i ailagor ward Dyfi. Y broblem yw'r recriwtio yna. Dyw e ddim fel eu bod nhw ddim wedi bod yn treial; maen nhw wedi bod yn ymgeisio i gael pobl. Dyna pam dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n recriwtio'n lleol, ac mae'r ffaith bod gennym ni ysgol nyrsio nawr yng Ngheredigion, mae hwnna, gobeithio, yn mynd i helpu, ond wrth gwrs mae'n cymryd sbel iddyn nhw fynd drwy'r system. Hefyd, rydym ni'n recriwtio mewn ardaloedd fel Kerala, a gobeithio bydd hwnna'n ein helpu ni i ddod â phobl hefyd i'n helpu ni yn ein gwasanaethau ni. Ond dyw e ddim yn rhywbeth rhwydd; maen nhw wedi ymgeisio lot i gael pobl i weithio yno ac maen nhw'n awyddus iawn i ailagor y ward yna.
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:
Yn ôl yn 2013 croesawodd llywodraeth Lafur Cymru fuddsoddiad o £5m i Ysbyty Cymunedol Tywyn. Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd y llywodraeth y bydd cynnydd yn nifer y gwelyau ac integreiddio sawl gwasanaeth yn galluogi mwy o bobl i gael gofal yn nes at adref mewn amgylchedd sy'n addas i'r pwrpas. Dros ddegawd yn ddiweddarach ac mae pethau wedi cymryd tro dramatig er gwaeth. Collasom yr Uned Mamolaeth, ac mae’r ward cleifion mewnol yn parhau i fod ar gau oherwydd argyfwng o ran recriwtio staff nyrsio. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i’r llywodraeth pa gamau sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r bwrdd iechyd i recriwtio nyrsys i Dywyn ac i ogledd Cymru fel y gellir gofalu am fy etholwyr yn nes adref ac mewn amgylchedd sy’n addas i’r diben. Prin yw'r cynnydd a welsom i fynd i'r afael â'r prinder cronig hwn o staff nyrsio yn ne Meirionnydd, tra bod cleifion yn dioddef. Mae angen i’r llywodraeth weithredu ac fel yr Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros yr ardal, (Canolbarth a Gorllewin Cymru), rwy’n disgwyl i’r Prif Weinidog fod â gwell dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter