BEIRNIADU PRIF WEINIDOG AM ATEB DI-GLEM I BRYDERON DIOGELWCH FFYRDD

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi beirniadu Prif Weinidog Cymru am ei hymateb ‘di-glem’ i gwestiwn am oedi difrifol wrth asesu pryderon diogelwch ar yr A494 a’r A470 ger Dolgellau.

Cafodd Mr ap Gwynfor ei sicrhau y byddai gwaith i asesu diogelwch ar yr A494 a'r A470 yn dechrau yn 2023 ond does dim cynnydd wedi bod. Deallir bod gwaith yn annhebygol o gael ei wneud tan o leiaf 2025/26.

Mae ffigurau diweddar gan Heddlu Gogledd Cymru yn datgelu, rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Gorffennaf 2023, y bu cyfanswm o 2 o farwolaethau, 9 gwrthdrawiad difrifol a 3 gwrthdrawiad llai difrifol ar yr A494 gyda 19 o wrthdrawiadau difrod-yn-unig pellach a 34 o wrthdrawiadau an-hysbysadwy a adroddwyd i'r heddlu yn y cyfnod hwn.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Rwyf wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynghylch diogelwch ar yr A494 rhwng Dolgellau a Chorwen a’r A470 yn Llanelltyd. Rydym wedi cael sicrwydd dro ar ôl tro y bydd asesiadau diogelwch ar y ffyrdd yn cael eu gwneud ond rydym yn dal i aros ac ni fu unrhyw gynnydd. O ganlyniad, mae pobl yn dal i gael eu hanafu ar y ffyrdd hyn ac mae pol leol yn ofn defnyddio'r ffyrdd. Beth yn union mae'r llywodraeth yn ei wneud i wella diogelwch ar yr A494 a'r A470 ger Dolgellau?

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:

Mae’r A494 rhwng Dolgellau a Chorwen a’r A470 yn Llanelltyd wedi gweld nifer o ddamweiniau difrifol ac angheuol ond mae gwaith sydd eisoes wedi’i addo i wella diogelwch ar y ffordd hon wedi’i ohirio am gyfnod amhenodol, er gwaethaf sicrwydd cyson gan Weinidogion. Roedd ymateb y Prif Weinidog heddiw yn dangos nad oes ganddi unrhyw syniad beth sy’n digwydd o ran diogelwch ar yr A494 a’r A470. Mae'r gofid a'r oedi parhaus hwn yn siom aruthrol i bobl leol sy'n gwbl rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd wrth fynd i'r afael â'r mater dybryd hwn. Mae fy etholwyr am weld y mesurau hyn yn cael eu cyflawni, nid esgusodion. Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau ar hyd yr A494 a'r A470 fel Llanuwchllyn, Rhydymain, Llanfor, Glan-yr-Afon a Llanelltyd wedi dod i arfer â’r ffyrdd yn cau am oriau hir a cherbydau brys yn ymateb i ddamwain ddifrifol arall. Cefais sicrwydd dro ar ôl tro gan Weinidogion fod gwaith i fynd i’r afael â’r mater hwn ar y gweill, ond nid ydym wedi clywed dim ers misoedd. Galwaf ar y Prif Weinidog i edrych eto ar yr angen dybryd i wella diogelwch ar yr A494 a’r A470 a chyflwyno’r rhaglen waith cyn gynted â phosibl fel y gall fy etholwyr fod yn sicr bod mesurau ar y gweill i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-01 16:44:57 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.