LIZ YN CODI ACHOS CYN IS-BOSTFEISTR YN SAN STEFFAN

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar lywodraeth newydd Llafur y DU i ddyblu ymdrechion i unioni'r difrod a achoswyd i gymunedau sy'n dioddef yn sgil sgandal y Swyddfa Bost.

Cododd Mrs Saville Roberts achos cyn-Is-bostfeistr Penrhyndeudraeth, Dewi Lewis, a ddioddefodd bedwar mis o garchar a bu'n rhaid iddo wisgo tag am bedwar mis arall am drosedd na chyflawnodd.

Dywedodd Mrs Saville Roberts fod y canlyniad parhaus o sgandal Swyddfa'r Post yn cael effaith niweidiol ar gymunedau yn ei hetholaeth gyda heriau sylweddol wrth recriwtio pobl i weithio mewn swyddfeydd post lleol.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Mae Dewi Lewis o Benrhyndeudraeth yn gyn-is-bostfeistr a ddioddefodd bedwar mis o garchar a bu'n rhaid iddo wisgo tag am bedwar mis arall am drosedd na chyflawnodd. Nid yw wedi dymuno i mi godi ei achos yn y Siambr o'r blaen, oherwydd dywedodd y byddai codi ei obeithion ac yna eu chwalu yn ei ddinistrio: bythefnos yn ôl, cafodd lythyr, rwy'n falch o ddweud, i ddweud bod ei euogfarnau wedi'u dileu. Ond mae'r difrod sydd wedi ei wneud i enw da Swyddfa'r Post yng nghefn gwlad Cymru mor aruthrol fel nad yw pobl bellach yn barod i weithio mewn swyddfeydd post. Rwy'n croesawu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud ei fod yn credu nad yw'r model busnes bellach yn addas i'r diben, ond sut allwn ni fod yn sicr y bydd gennym ni gynllunio strategol i wasanaethu'r cymunedau hynny a gafodd eu gwasanaethu cystal gan bobl fel Dewi Lewis?

Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:

Mae effeithiau sgandal Horizon ac arferion busnes Swyddfa'r Post yn dal i niweidio ein cymunedau. Mae Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaethau hanfodol i lawer o bobl, ac mae angen sicrwydd arnom gan y llywodraeth newydd y bydd y rhain yn cael eu cynnal. Mae sgandal Horizon yn llanast o wneuthuriad Swyddfa'r Post ei hun, ond sy'n parhau i gael effaith niweidiol ac eang ar gymunedau ledled y DU. Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i adfer ymddiriedaeth yn y gwasanaeth a'r cam cyntaf tuag at hynny yw sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau ble bynnag maen nhw'n byw.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-09-13 14:21:08 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.