Dyma sut gall eich cymuned gael mynediad at grant peiriannau diffibrilio

Dyma sut y gall cymunedau neu sefydliadau gael mynediad i'r £500,000 y mae'r Llywodraeth yn ei neulltuo tuag at beiriannau diffibrilio.

Gofynnodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd y cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd.

Meddai Mabon: "Sut y gall cymunedau neu sefydliadau gael mynediad i'r £500,000 y mae'r Llywodraeth yn ei neulltuo tuag at beiriannau diffibrilio, a phwy fydd yn penderfynu ar sut y bydd y pres yn cael ei ddyranu?"

Wrth ymateb i'r cwestiwn, dywedodd Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd:

"Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Achub Bywydau Cymru yn defnyddio’r £500,000 o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gennyf i weithio mewn partneriaeth i brynu bron i 500 o diffibrilwyr. Bydd grwpiau a sefydliadau cymunedol yn gallu gwneud cais i gael y ddyfais hon, a bydd y ffurflen gais ar gael maes o law; fodd bynnag gall grŵp a sefydliadau gofrestru eu diddordeb mewn cael y ffurflen drwy e-bostio: [email protected].

Rhaid i bob sefydliad sy’n dymuno gwneud cais fodloni nifer o feini prawf ynglŷn â mynediad, gan gynnwys cadarnhau’r gofynion canlynol:

· Nid oes unrhyw ddiffibriliwr o fewn 500m i’r safle arfaethedig;

· Bydd y sefydliad yn prynu cabinet a wresogir ar gyfer y diffibriliwr, a bydd hwnnw’n cael ei osod ar wal allanol mewn man y mae mynediad ato 24 awr y dydd;

· Darperir cyflenwad trydan addas er mwyn sicrhau bod y diffibriliwr yn cael ei gynnal ar y tymheredd cywir i atal y batri a’r padiau rhag dirywio;

· Bydd y diffibriliwr ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio 24 awr y dydd;

· Bydd y sefydliad yn cofrestru’r diffibriliwr yng nghronfa ddata The Circuit;

· Bydd yn penodi gwarcheidwad ar gyfer y diffibriliwr (i’w gynnal a’i gadw yn rheolaidd);

· Trefnir sesiynau ymwybyddiaeth i ddysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd/defnyddio diffibriliwr i unigolion sy’n rhan o’r sefydliad neu’r grŵp.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2021-10-22 09:20:49 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.