Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y bydd y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol a thoriadau i gymorth lles yn ei gael ar fusnesau a chymunedau ar draws Gwynedd.
Wrth gwestiynu Ysgrifenydd Gwladol Cymru, cyfeiriodd Mrs Saville Roberts at bryderon a godwyd gan feithrinfa plant yn Llanwnda a salon gwallt yn Llanrug, ill dau yn ofni y bydd y cynnydd yn yswiriant gwladol yn cael effaith ar eu busnesau, gan gynnwys eu gallu i recriwtio staff.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Mae salon gwallt Elaine yn Llanrug, meithrinfa Pitian Patian yn Llanwnda, a sawl cartref gofal a meddygfa ar draws Dwyfor Meirionnydd yn dweud wrthyf y bydd codiadau yswiriant gwladol sy’n dod mewn ychydig wythnosau yn eu hatal rhag cyflogi staff newydd. Dywed ei llywodraeth eu bod yn torri ar y wladwriaeth les i gael pobl i mewn i swyddi. Pa swyddi?
Heriodd Ms Saville Roberts Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i gyfiawnhau sut mae’r polisïau hyn yn cyd-fynd â nod y llywodraeth o gynyddu cyflogaeth, gan rybuddio y byddai’r mesurau yn hytrach yn arwain at lai o gyfleoedd swyddi ar draws Gwynedd.
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
Mae brad Llafur o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn dod yn gliriach bob dydd. Gwnaethant addo newid, ond yn lle hynny, rydym yn gweld parhad o galedi creulon, tebyg i Geidwadwyr, na fydd yn gwneud dim i wella bywydau pobl yn ein cymunedau. Bydd y cynnydd yng nghyfraniadau YG cyflogwyr yn cael ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ar draws busnesau yn fy etholaeth, heb sôn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan greu storm berffaith lle nad oes gan ddarparwyr unrhyw ddewis ond torri’n ôl ar wasanaethau. Mae busnesau ar draws Gwynedd yn dweud wrthyf am y baich ariannol anferth y maent yn ei wynebu rwan. Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Mae llawer o’n busnesau yn rai bach a chanolig – felly mae eu cefnogi yn hollbwysig os ydym am i’n heconomïau lleol ffynnu. Yn lle hynny, mae’r cynnydd arfaethedig gan Lafur yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr mewn perygl o osod beichiau ychwanegol ar y sector hollbwysig hwn sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd. Rwy'n annog Llafur i ystyried gwir gost eu cynigion ar y busnesau sy'n asgwrn cefn i'n heconomïau lleol ac ystyried ymagwedd decach.
Dywedodd Gemma Jones, perchennog Salon Gwallt Elaine yn Llanrug:
Mae ein salon wedi cyrraedd carreg filltir enfawr o wyth deg mlynedd a thair cenhedlaeth o un teulu yn rhedeg y busnes yn Llanrug. Fodd bynnag, nid yw'r salon bellach yn gallu derbyn prentisiaid newydd oherwydd y baich ariannol aruthrol a roddir ar y busnes. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 12 o bobl, (19 cyn Covid). Bydd y costau ychwanegol hyn yn rhoi pwysau pellach eto ar y busnes. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, y meithriniad hwn o waed newydd sydd wedi cadw’r busnes yn llewyrchus. Mae busnesau fel ein un ni sy'n llafurddwys ac yn talu TAW eisoes dan anfantais, cyn y newidiadau YG ym mis Ebrill. Rydym yn talu heb fod ymhell o £50K o TAW bob blwyddyn a chan fod ein gwaith yn llafurddwys, ni allwn hawlio TAW ychwaith. Am bob £10 a ddaw drwy'r til, mae £2 yn mynd yn syth i TAW. Ar ben hynny mae costau cynyddol y cynnydd mewn YG. Pe bai TAW yn cael ei gostwng i 15% neu 10% byddai hynny o leiaf yn rhoi lle i ni ystyried o bosibl recriwtio prentis. Rhaid i'r llywodraeth ailfeddwl ar fyrder am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i sicrhau dyfodol busnesau bach, lleol fel ein un ni.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter