Mae dros 1,000 o bobl bellach wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw ar i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwelyau nyrsio yn y Pentref Pwylaidd ym Mhenrhos, ger Pwllheli.
Mae dyfodol y gwelyau nyrsio yn parhau yn ansicr , er gwathaf y ffaith fod Clwyd Alyn wedi cyhoeddi eu bod nhw am gymryd rheolaeth o'r safle, sydd yn cynnwys llety cysgodol.
Mae'r AS lleol, Liz Saville Roberts, y Cynghorydd lleol Angela Russell, a Chadeirydd Cyngrhair Iechyd Gogledd ymru, Mabon ap Gwynfor wedi cael trafodaethau cyson efo'r Bwrdd Iechyd i'w lobio am barhad y ddarpariaeth gwelyau nyrsio y tu hwnt i Fawrth 2021.
Sefydlodd Mabon ap Gwynfor, sydd yn ymgyrchydd iechyd ac yn ymgeisydd ar gyfer Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn 2021, y ddeiseb er mwyn dangos y lefel o bryder sydd yn bodoli ynghylch dyfodol y safle.
Meddai Mabon ap Gwynfor,
‘Daeth yn amlwg yn sydyn iawn fod pobl Pen Llŷn yn hoff iawn o'r Cartref Pwylaidd.’
‘Maent yn parchu hanes y lle a'r rhan y mae'r preswylwyr Pwylaidd wedi chwarae yn y gymuned leol, yn ogystal a'r gwasanaeth a ddarperir yno i bobl bregus ac oedranus Pen Llŷn.’
‘Nid oes yna gartref nyrsio arall ym Mhen Llŷn, felly yn amlwg mae pobl yn gweld ei werth, ac mae yna alw am y wasanaeth.’
‘Mae'r ffaith fod yna dros 1,000 o bobl eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw ar i'r Bwrdd Iechyd a'r Llywodraeth i sicrhau fod darpariaeth gwelyau nyrsio yn parhau ym Mhenrhos yn dangos pwysogrwydd y lle i bobl.
'Mae arweinwyr cymunedol lleol yn unfrydig fod pobl Pen Llŷn angen gwybod beth ydy dyfodol y ddarpariaeth, a sut y cynhelir gofal nyrsio yn y dyfodol.
Mae copiau caled o'r ddeiseb yn cael eu cylchredeg o amgylch cymunedau Llyn er mwyn eu cyflwyno i'r Bwrdd ym mis Medi.
Gallwch arwyddo y ddeiseb yma: https://www.dwyformeirionnydd.cymru/gwlau_nyrsio_penrhos
Gallwch lawrlwytho copi caled yma:
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter