Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi galw ar y darparwr rhwydwaith band eang Openreach i ailddechrau ar fyrder cynlluniau Partneriaeth Cymunedol Ffibr (FCP), sydd wedi eu gohirio am gyfnod amhenodol oherwydd cynnydd yn y galw
Mae’r AS wedi bod yn cefnogi trigolion a busnesau yng nghymuned wledig Bryniau Brithdir ym Meirionnydd, sydd â chais ffibr cymunedol ers tro ar waith gydag Openreach, ar ôl sicrhau’r cyllid angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r cynllun.
Mewn ymateb i ohebiaeth gan Liz Saville Roberts AS, cadarnhaodd Openreach fod eu holl gynlluniau Partneriaeth Cymunedol Ffibr (FCP) bellach yn cael eu hadolygu, gyda phob cais presennol yn cael ei ohirio am gyfnod amhenodol.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
‘Rwy’n bryderus iawn bod Openreach wedi cymryd y penderfyniad i ohirio eu holl gynlluniau ffeibr cymunedol, cam a fydd, yn ddealladwy, yn siomi llawer o gymunedau fel trigolion Brithdir yn fy etholaeth a gafodd eu harwain i gredu bod eu cynllun yn mynd rhagddo.’
‘Ar ôl cyrraedd y pwynt hwn yn y broses a chyda’r cyllid angenrheidiol yn ei le, mae fy etholwyr yn rhwystredig, fel finnau, gyda’r penderfyniad sydyn i ohirio’r holl gynlluniau ffeibr cymunedol presennol, gan gynnwys y rhai sydd bron wedi’u cwblhau.’
‘Rwy’n annog Openreach i roi eglurder ar unwaith i’m hetholwyr ac eraill yn yr un sefyllfa ynghylch statws eu cynllun ffeibr cymunedol ac amserlen realistig a dibynadwy ar gyfer cwblhau’r gwaith.’
'Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Ddwyfor Meirionnydd eisoes dan anfantais anghymesurol o ran cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.'
'Bydd yr oedi i'r cynllun penodol hwn sy'n ceisio cysylltu'r rhai nad ydynt yn gymwys yn fasnachol neu trwy’r llywodraeth i gael band eang ffeibr yn gwaethygu'r sefyllfa, gan waethygu ymhellach y bwlch digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol.'
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:
‘Mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi methu ag amlinellu sut y bydd band eang yn cael ei ddarparu i rannau helaeth o’n gwlad. Yn wir, mae Cymru wedi colli allan ar fuddsoddiad hollbwysig dro ar ôl tro.’
‘Pam y dylid diystyru cyfleustodau hanfodol, megis band eang digonol, fel moethau i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel Brithdir?’
‘Os ydym am wneud Cymru yn le mwy ymarferol i fusnesau leoli ac ehangu, ac os ydym am sicrhau y gall cymunedau elwa’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan gysylltedd digidol gwell, mae buddsoddi mewn band eang yn hollbwysig.’
‘Rhaid i dargedau uchelgeisiol gael eu cefnogi gan gyllid cyfartal ac atebion ymarferol.'
Ychwanegodd un o drigolion Brithdir, Stuart Marsh:
‘Roeddwn wedi bod yn mynd ar ôl y cynllun Ffeibr Cymunedol trwy gydol fis Rhagfyr, ond roedden nhw’n dawel iawn, clywais ddim ganddynt. Roeddwn i wedi bod yn mynd ar eu holau am sawl peth gwahanol ac wedi clywed dim byd yn ôl, pan yn y gorffennol roedden nhw'n eithaf sydyn yn ymateb.'
‘Yn y diwedd, cawsom neges i ddweud bod pob prosiect Ffeibr Cymunedol wedi’i ohirio. Roeddem wedi sicrhau’r cyllid angenrheidiol ond dywedwyd wrthym ychydig ar ôl y Nadolig fod yr holl brosiectau wedi’u gohirio.’
‘Nid ein prosiect ni’n unig a effeithiwyd arno. Roedd yr holl brosiectau ar stop, ond ni roddwyd unrhyw reswm. Nid ydym yn cael digon o wybodaeth. Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen gyda gwahanol brosiectau ers cyn dechrau’r pandemig Covid.’
‘Rydyn ni wedi cael addewid ac addewid o bethau gwahanol. Rydyn ni'n cyrraedd mor bell. Rydyn ni'n cyrraedd y pwynt o fod bron yno ac mae'n dod i stop, a dyna'r peth rhwystredig.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter