Cyhuddo Bwrdd Iechyd o dwelu staff

Cyhuddo Bwrdd Iechyd o dawelu ei staff

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael eu cyhuddo o drio dawelu ei staff.

Rhannodd aelod o staff e-bost oddi wrth y Bwrdd Iechyd gyda Mabon ap Gwynfor oedd yn galw ar i’r staff beidio a llofnodi y ddeiseb oedd yn cefnogi gwasanaeth methiant y galon.

Dechreuodd Mabon ap Gwynfor y ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd i sicrhau parhad Gwasanaeth Methiant y Galon Gogledd Cymru , a oedd, yn ôl Mr. ap Gwynfor, o dan fygythiad oherwydd methiant y Bwrdd i gynnig cytundebau parhaol i staff y wasanaeth.

Sefydlwyd y wasanaeth fel un ‘gwario i arbed’ nol yn 2015.  Tra fod y wasanaeth yn costio dros £400,000 y flwyddyn i’w chynnal, dywed adroddiadau i effeithlonrwydd y wasanaeth ei fod yn arbed dros £5m y flwyddyn iddynt. Yn anffodus mae’r Bwrdd Iechyd wedi methu a rhoi sicrwydd i’r wasanaeth gan, yn hytrach, gynnal cyfres o adolygiadau bob 6 mis.

Rwan, mae wedi dod i’r amlwg fod y Bwrdd wedi gofyn i’w staff beidio a chefnogi’r ddeiseb. Dywed Mabon ap Gwynfor mai’r bwriad ydy tawelu’r staff.

Meddai’r Cyng. ap Gwynfor, Mae nifer o’r staff wedi dweud wrthyf pa mor bwysig ydy’r gwasanaeth yma i’w cleifion. Mae’r rhai hynny sy’n gweithio ar rheng flaen y gwasanaeth iechyd ac yn profi y straen dyddiol o orfod gofalu am nifer cynyddol o bobl yn gweld gwerth y wasanaeth, ac yn gwybod mai dyma’r union math o wasanaeth sydd ei hangen ar ardal wledig fel hyn.

“Yr wythnos diwethaf roedd y Prif Weinidog Llafur yn dweud y dylai penderfyniadau yn ymwneud a’r gwasanaeth iechyd gael eu harwain gan yr arbenigwyr clinigol. Ond eto, o dan reolaeth y Llywodraeth Lafur mae’r Bwrdd Iechyd yn gofyn i’w harbenigwyr clinigol gadw’n dawel. Mae staff y GIG hefyd yn gleifion, a chyda theuluoedd ac anwyliaid sy’n gleifion. Mae eu llais hwy yr un mor bwysig, a dylent hwythau gael eu clywed heb unrhyw fath o bwysau na chysgod ofn.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.