Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor yn dweud y gellid fod wedi osgoi cau pob un o’r 3 canolfan ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn dangos nad oeddent byth o ddifrif ynglŷn ag ymgysylltu â chymunedau lleol.
Heddiw bydd holl wasanaethau manwerthu ac arlwyo yn cau yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas er gwaethaf ymdrechion gan ymgyrchwyr i gymryd drosodd y gwaith o redeg y safleoedd poblogaidd.
Mae Mr ap Gwynfor wedi bod yn cydweithio ag ymgyrchwyr lleol i roi pwysau ar lywodraeth Cymru i ymyrryd, gan arwain dadl ar y mater yn y Senedd, holi Gweinidogion, a siarad yn gyhoeddus am yr angen i gadw'r canolfannau ar agor.
Mae Mr ap Gwynfor wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r £1.2 miliwn angenrheidiol i Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal eu holl ganolfannau ar gyfer eleni er mwyn rhoi amser i’r rhai sy’n fodlon cymryd drosodd y safleoedd i lunio eu cynlluniau busnes.
Bydd y canolfannau ymwelwyr yn y tri safle rwan yn cau hyd y gellir rhagweld.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mae wir yn fy nhristáu ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn. Nid yn unig i'r staff a roddodd flynyddoedd o wasanaeth yn y canolfannau hyn, ond hefyd i ddyfodol y brand a fydd yn ddiamau yn colli ei werth. Roedd yn gwbl bosib osgoi cau canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas, petai'r rhai oedd yn defnyddio'r fwyell yn fodlon gweithio'n rhagweithiol gyda grwpiau cymunedol lleol o'r cychwyn cyntaf. Fe’i gwnaed yn glir i CNC a llywodraeth Cymru o’r cychwyn fod yna grwpiau â diddordeb ac yn barod i gamu i mewn a chymryd drosodd y gwaith o redeg y canolfannau. Ailadroddais hyn dro ar ôl tro wrth CNC a llywodraeth Cymru, fel y gwnaeth cydweithwyr eraill. Roedd eu methiant i hyd yn oed ystyried y cysyniad o'r canolfannau yn cael eu rhedeg ar gyfer y gymuned, gan y gymuned yn bradychu diffyg gweledigaeth syfrdanol. A dweud y gwir, nid oedd gan CNC a Llywodraeth Cymru erioed ddiddordeb mewn ymgysylltu â grwpiau cymunedol lleol. Roeddent wedi gwneud eu penderfyniad ac yn glynu wrtho. Pe bai llywodraeth Lafur Cymru wedi cadw at ei gair a mabwysiadu deddfwriaeth yn rhoi’r hawl i gymunedau brynu, yna ni fyddai hyn wedi digwydd. Gallai sefydliadau lleol fod wedi gwneud y cais hwnnw i brynu. Yn anffodus, ni chadwodd y Blaid Lafur at ei haddewidion maniffesto, ac rydym mewn sefyllfa lle cafodd y gymuned ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Yn fy etholaeth fy hun, mae pobl Coed y Brenin, a phobl yr ardal honno, wedi gwneud Coed y Brenin yr hyn ydyw, a dylai Coed y Brenin aros mewn perchnogaeth leol. Mae cau’r adnodd gwych hwn yn cael ei ruthro drwodd heb ymgynghori a chraffu ystyrlon, a heb fawr o sylw i’r effaith ar yr economi leol ac ymwelwyr. Mae Coed y Brenin yn frand gwych sy’n gofyn am fuddsoddiad a datblygiad gwirioneddol, wedi’i ysgogi gan y rhai sydd â’r arbenigedd a’r wybodaeth i harneisio potensial y safle. Dylai CNC a llywodraeth Cymru fod wedi gweithio’n agored ac yn greadigol gyda chymunedau lleol i sicrhau bod adnoddau gwerthfawr fel Coed y Brenin yn parhau i wasanaethu pobl leol ac economi ymwelwyr Meirionnydd fel ei gilydd. Yn lle hynny, maent wedi hwyluso’r broses o’i chau, gan ddiystyru atebion pragmatig sy’n cael eu gyrru gan y gymuned i gadw’r ganolfan ar agor a chaniatáu i’r gymuned gyflwyno cynllun busnes hyfyw i gymryd drosodd y gwaith o redeg y safle cyfan.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter