Ers 2015 mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal gwasanaeth cymunedol rhagorol ar gyfer cleifion methiant y galon.
Mae'n wasanaeth sy'n arbed bywydau; yn arbed pobl rhag mynychu ysbytai cyffredinol; ac yn arbed arian sylweddol i'r Bwrdd Iechyd.
Mae tua 8,000 o gleifion methiant y galon yn wybyddus ar hyd gogledd Cymru, ac amcangyfrifir fod tua'r un faint eto nad ydynt yn wybyddus i'r meddygon.
Mae'r clinigau cymunedol yma yn trin dwsinau o gleifion y galon bob mis, a hynny mewn canolfannau yn agosach i'w cartref. Mae'r gwasanaeth bresennol yn arbed tua £1.5m y flwyddyn i'r Bwrdd Iechyd. O'i ledu ymhellach i bob rhan o'r gogledd mae posib y gallai arbed hyd at £5m iddynt.
Yn anffodus mae'r Bwrdd wedi methu ag ymrwymo i gynnal y gwasanaeth am yr hir dymor, gan ei adolygu bob chwe mis. Golyga hyn nad oes yna sicrwydd swydd i'r rhai hynny sy'n gweithio, sydd yn ei dro yn golygu fod y staff yn symud ymlaen i wasanaethau eraill ac felly yn bygwth y gwasanaeth arbennig yma.
Mae'r gwasanaeth angen sicrwydd. Rydym felly yn galw ar i'w Gweinidog Iechyd a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau fod y gwasanaeth rhagorol yma'n cael sicrwydd hir dymor er lless y nifer fawr o gleifio y galon sydd yng ngogledd Cymru.