BUSNESAU CARTREFI GOFAL YN WYNEBU BYGYTHIAD GWAETH NA COFID

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i ymyrryd er mwyn eithrio darparwyr gofal rhag y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Gan godi’r mater yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, tynnodd Mrs Saville Roberts sylw at sefyllfa Cartrefi Gofal Cariad Porthmadog sy’n wynebu talu £95,795 yn ychwanegol mewn cyfraniadau YG, sy’n cyfateb i £56 ychwanegol fesul preswylydd, fesul wythnos.
,,,
Mae Cartrefi Gofal Cariad yn ddarparwr gofal sefydledig gyda 25 mlynedd yn y sector, yn rheoli dau gartref nyrsio yng Ngwynedd ac yn darparu gofal i hyd at 77 o bobl fregus. Maent yn cyflogi tîm o 130 ac mae ganddynt gyfradd defnydd o 98%.
...
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
...
Gwn faint y mae gwaith gofal proffesiynol yn ei olygu i’r Dirprwy Brif Weinidog. Mae Cartrefi Gofal Cariad ym Mhorthmadog yn dweud wrthyf na fyddan nhw’n gallu amsugno’r costau afresymol ychwanegol a ddaw yn sgil Cyllideb ei llywodraeth. Maen nhw'n credu bod hyn yn fygythiad gwaeth na covid i'w busnes. A fydd ei llywodraeth o leiaf yn eithrio darparwyr gofal rhag y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr?
...
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
...
Mae cartrefi gofal fel Cariad ym Mhorthmadog yn darparu gwasanaeth hollbwysig i’r gymuned leol, gan ofalu am y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas. Mae gan eu cartrefi gofal ym Mhorthmadog a Phentrefelin enw da am nyrsio a gofal lliniarol, diwedd oes. Ond mae cynnydd Yswiriant Gwladol newydd Llafur wedi rhoi’r gwasanaethau craidd hyn mewn perygl. Bydd llawer rwan yn wynebu penderfyniadau anodd. Bydd y cynnydd yng nghyfraniadau YG cyflogwyr yn cael ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan greu storm berffaith lle nad oes gan ddarparwyr unrhyw ddewis ond torri'n ôl ar wasanaethau gan na allant fforddio eu cadw i redeg. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i ddefnyddio ei dylanwad a thynnu ar ei phrofiad personol i annog ei chydweithwyr yn y Trysorlys i ailystyried y polisi hwn.
...
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Gofal Cariad, Ceri Roberts:
....
Mewn termau real, rydym yn amcangyfrif mai effaith newidiadau YG yw £95,795 ychwanegol. Y cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol yw £124,703, felly cyfanswm cynnydd ychwanegol o £220,498 y flwyddyn sy'n cyfateb i £56 fesul preswylydd, yr wythnos. Nid yw'r swm ychwanegol hwn yn ystyried unrhyw gynnydd mewn costau anuniongyrchol, megis cyfleustodau, bwyd, yswiriant ac ati. Mae 96% o'n preswylwyr yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd. Rydym wedi cael achos cyfreithiol diweddar gyda’r bwrdd iechyd oherwydd eu ffioedd isel annigonol. Nid wyf yn gweld Cartrefi Gofal Cariad yn gallu amsugno’r costau afresymol ychwanegol hyn. Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein cyllid, sydd eisoes dan bwysau. Byddwn yn dychmygu y bydd hyn hefyd yn cael hyd yn oed mwy o effaith ar gartrefi gofal llai, gyda’r posibilrwydd o fwy o gartrefi yn cau.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-11-20 14:08:48 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.