AMBIWLANS AWYR - CROESAWU ADOLYGIAD BARNWROL

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts a’r Aelod Senedd Mabon ap Gwynfor wedi croesawu’r newyddion y bydd Adolygiad Barnwrol yn cael ei gynnal i’r penderfyniad i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon a’r Trallwng.

Mae’r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd i’r achos fynd ymlaen i wrandawiad llawn gerbron Barnwr a fydd yn archwilio’r broses a arweiniodd at gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn rhoi sêl bendith i gau’r canolfannau o blaid symud y gwasanaeth i safle yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS:

Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y frwydr i gadw’r Ambiwlans Awyr i hedfan o Gaernarfon a’r Trallwng ac yn dyst i ymdrechion pawb fu’n rhan o’r ymgyrch i ddiogelu gwasanaeth sy’n annwyl i ni i gyd. Nid yw sicrhau Adolygiad Barnwrol yn ofyn hawdd o bell ffordd. Rydym ymhell o fod yn sicr na fydd yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl oherwydd cynlluniau i gau’r ddwy ganolfan megis Pen Llŷn, de Meirionnydd, Ynys Môn, a chanolbarth Cymru yn cael eu gadael gyda gwasanaeth is-safonol. Nid yw'n afresymol felly i bobl fod â phryderon difrifol y bydd gennym wasanaeth sylweddol waeth yn sgil cau safleoedd Caernarfon a'r Trallwng. Rydym yn dal yn gadarn yn ein barn fod yn rhaid cadw canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng fel canolfannau gweithredol ar gyfer yr hofrenyddion.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-10-11 12:45:14 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.