Economi arfordir y Cambrian yn dioddef yn sgil torri gwasanaethau tren medd AS

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi galw unwaith eto ar lywodraeth Lafur Cymru i gydnabod nad yw toriadau i amserlen Rheilffordd Arfordir y Cambrian wedi achosi dim ond anghyfleustra a diflastod i’r rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar ddibynadwyedd ac amlder gwasanaethau. 

Mae Mr ap Gwynfor yn parhau i dderbyn cwynion gan etholwyr a busnesau lleol ar hyd arfordir y Cambrian sydd wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan doriadau i wasanaethau, gan gyhuddo Trafnidiaeth Cymru o fod â diffyg diddordeb ym mhrofiadau defnyddwyr rheilffyrdd gwledig.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:   

Mae newid yr amserlen yn cael effaith andwyol sylweddol ar economi arfordir y Cambrian, o Fachynlleth i Bwllheli. Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon gan fusnesau sydd wedi darganfod bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng ac eu bod wedi dioddef colled incwm. Ar adeg pan fo’r sector lletygarwch eisoes yn ei chael hi’n anodd, mae’r newid hwn i’r amserlen trenau yn gwaethygu pethau. Mae tafarndai, bwytai, sinemâu annibynnol lleol, theatrau ac eraill wedi cael eu heffeithio. Dyma un enghraifft gan westy hyfryd Morlyn yn Llandanwg, ger Harlech:

Dywedodd perchennog Gwesty Morlyn, Marie-Claire Marsden:

Busnesau bach fel ein un ni sy'n dioddef. Mae gennym gytundeb parhaus gyda chwmni o’r Iseldiroedd, Treinreiswinkel, lle mae gwesteion o’r Iseldiroedd yn cyrraedd Llandanwg ar y trên, yn aros am 2 ddiwrnod, yna’n cario ymlaen ar fws a thrên i fyny i Landudno, ac yna ar drên i wneud taith fawr o amgylch y DU. Ni yw'r stop cyntaf. Maent yn cyrraedd yr holl ffordd o Amsterdam ar y diwrnod cyntaf a dylent allu cysylltu yn Birmingham International gyda lein y Cambrian yn cyrraedd yma am 18.13 ond nid yw’r cysylltiadau bob amser yn gweithio, felly mae’n anochel y byddant yn cyrraedd 2 awr yn ddiweddarach ar y drên nesaf. Iawn, heblaw mai dyma drên olaf y dydd bellach. Pe bai problem gyda'r Eurostar neu'r trên o Lundain i Birmingham, byddai ein gwesteion yn styc. Ac mae hyn wedi digwydd. Cyrhaeddodd y gwesteion yn flinedig am hanner nos. Rwan bod y trên olaf wedi mynd, yr unig ddewis arall yw tacsi o’r Amwythig. Mae hyn yn ddrud ac yn anodd i’w reoli ar gyfer y rhai nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:

A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro i’m hetholwyr pam y dylent orfod colli incwm, swyddi, a’n heconomi yn dioddef oherwydd methiant Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaeth effeithiol ar Reilffordd y Cambrian?


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-04-30 13:26:21 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.