AS Caernarfon yn deisebu y Swyddfa Bost ynghylch bygythiad i’r gangen

Mae deiseb yn galw ar y Swyddfa Bost i ddiogelu gwasanaethau wyneb yn wyneb, dros y cownter yng Nghaernarfon wedi cael ei chyflwyno i uwch swyddogion yn ystod cyfarfod yn San Steffan.

Cafodd y ddeiseb gyda 1,633 o enwau ei chyflwyno i Gadeirydd y Swyddfa Bost, Nigel Railton gan AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts. Mae'n galw ar Swyddfa'r Post i ail-feddwl eu cynlluniau i gau Swyddfa Bost y Goron yn y dref.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan gynrychiolwyr cymunedol lleol Plaid Cymru gan gynnwys Liz Saville Roberts AS, Siân Gwenllian AS, y Cynghorydd Cai Larsen, ac AS Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd.  

Mae cynlluniau i gau Swyddfa Bost y Goron Caernarfon wedi cael eu beirniadu'n ffyrnig gan y gymuned leol.

Wrth gyflwyno’r ddeiseb, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Yn gyntaf ac yn bennaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ychwanegu eu llais at yr ymgyrch yn galw ar y Swyddfa Bost i ddiogelu gwasanaethau wyneb yn wyneb yng Nghaernarfon. Mae’n gwbl amlwg bod pobl leol am weld gwasanaethau dros y cownter yn cael eu cynnal yn y dref. Mae pobl yn rhoi gwerth aruthrol ar y cyfleustra o allu galw i mewn i'w cangen Swyddfa Post leol, boed ar gyfer eu hanghenion personol neu fusnes. Gyda cholli banciau’r stryd fawr, mae Swyddfa’r Post yng Nghaernarfon yn parhau i fod yn un o’r ychydig fannau hygyrch ar gyfer gwasanaethau bancio lleol. Gwasanaeth cyhoeddus yw Swyddfa’r Post yn bennaf oll, ac eto mae’n ymddangos mai ychydig iawn o ymgysylltu â’r cyhoedd neu gynllunio strategol sydd wedi bod lle mae angen gwarantu canghennau. Cyflwynaf y ddeiseb hon yn y gobaith y bydd ein pwysau ar y cyd ar Swyddfa’r Post yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, hirdymor i’r gymuned leol – un sy’n rhoi anghenion cwsmeriaid Swyddfa’r Post lleol yn gyntaf.

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS:

Mae cau Swyddfa Bost Caernarfon yn ergyd drom i’r gymuned, ac mae cryfder teimladau’r trigolion yn amlwg. Mae’r ddeiseb hon yn dangos y pryder dwfn ynghylch colli gwasanaeth mor hanfodol, ac anogaf Swyddfa’r Post Cyf i wrando ar leisiau’r rhai sy’n dibynnu ar y gwasanaeth bob dydd. Byddaf yn parhau i bwyso am ateb cynaliadwy sy’n sicrhau bod gan Gaernarfon y gwasanaethau y mae’r dref ei hangen ac y mae’n eu haeddu.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-02-07 13:45:09 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.