Cadw gwasanaeth cymunedol methiant y galon

Ers 2015 mae'r Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi er mwyn ehangu gwasanaeth cymunedol rhagorol ar gyfer cleifion methiant y galon.

Mae'n wasanaeth sy'n arbed bywydau; yn arbed pobl rhag mynychu ysbytai cyffredinol; ac yn arbed arian sylweddol i'r Bwrdd Iechyd.

Mae tua 8,000 o gleifion methiant y galon yn wybyddus ar hyd gogledd Cymru, ac amcangyfrifir fod tua'r un faint eto nad ydynt yn wybyddus i'r meddygon.

Mae'r clinigau cymunedol yma yn trin dwsinau o gleifion y galon bob mis, a hynny mewn canolfannau yn agosach i'w cartref. Mae'r gwasanaeth bresennol yn arbed tua £1.5m y flwyddyn i'r Bwrdd Iechyd. O'i ledu ymhellach i bob rhan o'r gogledd mae posib y gallai arbed hyd at £5m iddynt.

Yn anffodus mae'r Bwrdd wedi methu ag ymrwymo i gynnal y gwasanaeth am yr hir dymor, gan ei adolygu bob chwe mis. Golyga hyn nad oes yna sicrwydd swydd i'r rhai hynny sy'n gweithio, sydd yn ei dro yn golygu fod y staff yn symud ymlaen i wasanaethau eraill ac felly yn bygwth y gwasanaeth arbennig yma.

Mae'r gwasanaeth angen sicrwydd. Rydym felly yn galw ar i'w Gweinidog Iechyd a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau fod y gwasanaeth rhagorol yma'n cael sicrwydd hir dymor er lles y nifer fawr o gleifio y galon sydd yng ngogledd Cymru.

Gallwch lofnodi'r ddeiseb yma.

Gallwch ddarllen mwy ar wefan y BBC, yma.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.