BYGYTHIAD I BEIRIANNU ARIAN DI-DÂL WRTH I’R LLYWODRAETH ANWYBYDDU GALWADAU AM GYMORTH

AS Plaid Cymru yn galw am fesurau lliniaru digonol i warchod cymunedau gwledig rhag toriadau anghymesurol

Mae AS Plaid Cymru dros Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi annog un o brif ddarparwyr peiriannau arian y DU i amddiffyn cymunedau gwledig, wrth iddynt symud ymlaen â chynllun i newid miloedd o beiriannau arian di-dâl gan gynnwys 3 yn ei hetholaeth.

Mewn llythyr at yr AS, cadarnhaodd NoteMachine gynlluniau i drosi 3,000 o’u 7,000 o beiriannau arian di-dâl i rai sy’n codi ffȋ yn dilyn toriadau olynol i’r ffȋ cyfnewidfa LINK - y ffȋ a delir gan fanciau i ddarparwyr ATM am dynnu arian allan.

Dywedodd NoteMachine, er gwaethaf 2 ½ blynedd o annog llywodraeth y DU i ymyrryd, mae cynnal peiriannau ATM rhad ac am ddim bellach yn ‘economaidd anymarferol.

Mae Liz Saville Roberts AS, a ymgyrchodd yn llwyddiannus i amddiffyn sawl peiriant arian yn ei hetholaeth, wedi annog darparwyr ATM i warchod ardaloedd gwledig rhag toriadau yn y dyfodol, gan alw am fesurau lliniaru digonol i sicrhau fod cwsmeriaid yn parhau i gael mynediad at arian parod.

Mae hi hefyd wedi codi pryderon penodol ynghylch mynediad at arian parod yn Harlech, sef un o'r ardaloedd a gafodd eu taro galetaf o ran darpariaeth ATM am ddim, pellter i'r gangen banc agosaf a chysylltedd gwael ac annibynadwy.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: ‘Mae’n feirniadaeth ddamniol o’r llywodraeth Torïaidd bod darparwyr peiriannau arian wedi’u rhoi yn y fath sefyllfa fel eu bod bellach yn cael eu gadael heb unrhyw ddewis ond dechrau trosi cyfran o’u peiriannau i rai sy’n codi ffȋ defnydd.’

‘Y cymunedau tlotaf a’r bobl fwyaf bregus sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf o ganlyniad i’r gostyngiad hwn mewn mynediad am i arian am ddim.’

‘Tra bod arferion cwsmeriaid yn newid, mae angen sicrhau mynediad at arian i gymunedau gwledig, a bydd colli peiriannau ATM am ddim, yn ergyd fawr i fusnesau lleol.’

‘Nid yn unig mae’n annheg i bobl orfod talu i gael eu harian eu hunain allan, ond bydd cwsmeriaid rwan yn wynebu teithio ymhellach i fedru tynnu arian allan am ddim.’

‘Os yw ein peiriannau arian yn wynebu bygythiadau pellach, yna bydd llawer o bobl yn brwydro i gael gafael ar yr arian sydd ei angen arnynt - gyda chanlyniadau difrifol i gymunedau a busnesau.’

‘Ni all ein cymunedau ddygymod â cholli mwy o’r peiriannau arian y mae busnesau a phobl leol yn dibynnu arnynt. Mae Harlech yn un gymuned yn fy etholaeth lle mae mynediad at arian parod yn bryder dybryd.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.