BLOG: Llymder, yr Argyfwng Costau Byw a'r Torïaid – Mabon ap Gwynfor

Mae pobl Cymru wedi dangos gwydnwch rhyfeddol dros y deng mlynedd diwethaf. Yn wyneb llymder llethol – yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol sbeitlyd, Brexit siofinistaidd, ac yn fwy diweddar y pandemig byd-eang sydd wedi bod gymaint gwaeth yn sgil tin-droi a methiant i wneud penderfyniadau – mae’n syndod ar un olwg bod pobl a chymunedau wedi llwyddo i oroesi.

Mewn sawl achos, mae cymunedau wedi ail-ddarganfod pwrpas, gan ddod at ei gilydd, a sicrhau bod llawer o’r bobl fwyaf bregus ddim yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain. Mae'r ysbryd yna o ofal a chydweithio yn un llygedyn o obaith sy'n dod allan o'r degawd diwethaf. Ac mae'n un y bydd rhaid i ni ei feithrin eto yn wyneb argyfwng sy'n fwy na dim byd mae’r un genhedlaeth wedi'i weld ers degawdau: yr argyfwng costau byw.

Byddai dweud ’mod i’n bryderus yn ddweud rhy gynnil – rhywbeth tebyg i ddweud bod ymgyrch rygbi Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi bod yn “siomedig”.

Hyd yn oed ar hyn o bryd, mae tua 30% o blant Cymru’n byw mewn tlodi, efo 90,000 o blant yn byw mewn tlodi difrifol. Mae bron i un ym mhob pump o’n pensiynwyr yn byw mewn tlodi. Mae enillion Gweithwyr Cymru ymhlith yr isaf yng ngwledydd Prydain, ac mae dros un ym mhob pump o bobl sy’n gweithio yn ennill llai na’r cyflog byw go iawn. Mae incwm domestig gros aelwydydd yn llai yng Nghymru na’r un rhan arall o wledydd Prydain, ac mae fy etholaeth i, Dwyfor Meirionnydd, ymhlith yr isaf drwy wledydd Prydain i gyd.

 

Llymder

I lawer, mae bywyd yn ddigon anodd fel mae pethau, a llawer yn gorfod crafu byw. Mae dros ddeng mlynedd o lymder wedi cael effaith fawr ar ein cymdeithas. Yn economaidd, roedd effaith llymder yn drychinebus – mi ffrwynodd weithgarwch economaidd gan arwain at dwf economaidd araf. Mi dynnodd gannoedd o filiynau o bunnoedd o bocedi’r rhai mwya bregus, ac yn ei dro niweidio economïau lleol llai, tra bod anghydraddoldeb cyfoeth wedi cynyddu’n sylweddol. Mae’r deg y cant cyfoethocaf yng ngwledydd Prydain wedi gweld cynnydd ysgytwol o £2.6 triliwn yn eu cyfoeth ers chwalfa economaidd 2008/10  – cynnydd sydd deirgwaith yn gyflymach na chyfoeth y deg y cant tlotaf. Roedd llymder yn cael ei werthu fel ffordd angenrheidiol o ‘gydbwyso’r cyfrifon’, ond mewn gwirionedd, arf oedd hyn i drosglwyddo cyfoeth gan y tlotaf i’r cyfoethocaf.

Roedd ei effaith gymdeithasol yn fwy niweidiol byth. Mi wynebodd awdurdodau lleol, sy’n gwneud llawer o’r gwaith rheng flaen, fel gofal cymdeithasol, darpariaeth anghenion addysgol arbennig, gwasanaethau mabwysiadu a maethu, trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau tai a digartrefedd, llyfrgelloedd ac ati, doriadau enbyd i’w cyllidebau, gan arwain at weld pob math o wasanaethau yn cael eu torri'n ôl neu eu torri’n llwyr. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar y rhai mwya bregus.

 

Brexit

Wrth i lymder ddinistrio’n cymunedau a chreu gwasgfa i safonau byw’r rhan fwyaf o bobl gwledydd Prydain, beth ddaeth nesa ond Brexit, sef o bosib y cam unigol mwya trychinebus gan wladwriaeth yn erbyn ei hun yn y cyfnod modern. Does dim bai ar y cyhoedd, a gymerodd ran yn yr hyn roedden nhw’n ei weld fel ymarferiad torfol mewn democratiaeth a chyfle i ddatgan eu rhwystredigaeth ynghylch y sefyllfa oedd ohoni; yn hytrach, mae’r bai ar y pwysigion cyfoethog oedd yn hyrwyddo polisi fyddai, mewn gwahanol ffyrdd, o fudd tymor byr iddyn nhw.

I lawer, ar ôl chwe blynedd o lymder llethol, ac efo’r rhai oedd wedi bod yn gyfrifol am lymder yn dweud wrthon ni am bleidleisio i Aros, roedd y cyfle i ailosod y system yn un rhy dda i'w golli. Dyma ran o’r rheswm pam digwyddodd Brexit.

Hwn oedd dydd y farn ar gyfer gweddillion pydredig yr Ymerodraeth Brydeinig, y dydd pan drodd arni hi’i hun yn y pen draw.
Dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach rydyn ni’n dechrau gweld effeithiau Brexit, efo silffoedd gwag yn aml mewn archfarchnadoedd, cynnydd mawr a chostau biwrocrataidd ar gyfer allforio a mewnforio, a busnesau bach a chanolig (sef asgwrn cefn economi Cymru) yn diodde’n llawer mwy na busnesau mawrion.

 

COVID

Yna mi ddaeth Covid, feirws heintus iawn a drodd yn bandemig yn gyflym, ar raddfa nad oedd y byd wedi gweld ei debyg ers 1918 adeg y ffliw ofnadwy sydd weithiau’n cael yr enw gwallus Ffliw Sbaen. Dydyn ni’n dal ddim yn gwybod effaith lawn Covid-19, ac ar adeg ysgrifennu hwn, rydyn ni’n cyrraedd uchafbwynt y seithfed don. Ond digon ydy dweud bod Covid hefyd wedi cael effaith ddinistriol. Yn ariannol, mi welon ni dro pedol ar lymder yn syth, efo biliynau o bunnoedd yn cael eu pwmpio i mewn i economi gwledydd Prydain, drwy daliadau ffyrlo a grantiau cymorth. Fodd bynnag, i lawer roedd hynny’n rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr – mae’n amhosib ailadeiladu’r rhwyd diogelwch cymdeithasol a ddatgymalwyd gan bolisi llymder mewn mater o fisoedd.

Mae gwleidyddion a sylwebwyr wedi amddiffyn gweithredoedd y llywodraeth yn rheolaidd drwy ddweud bod y pandemig yn ddigwyddiad digynsail. Ond mae’r ddadl yma’n arwynebol.
Rydyn ni’n gwybod bod llywodraeth Prydain wedi cynnal ymgyrch o’r enw Exercise Cygnus yn 2016 i baratoi ar gyfer pandemig tebyg i ffliw, ac er nad ffliw oedd Covid-19, mae’n bosib defnyddio’r rhan fwyaf o wersi Cygnus ar gyfer unrhyw feirws anadlol. Mi dynnodd Cygnus sylw at lawer o'r gwendidau oedd yn bresennol ac roedd angen eu trwsio i baratoi ar gyfer achos o'r fath. Chafodd rhain mo’u gweithredu, a dweud y gwir, roedd camau a gymerwyd ar ddechrau’r pandemig yn groes i arferion gorau a gwersi a ddysgwyd gan Cygnus.

Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi gweld niferoedd y gwlâu ysbyty (a’r nyrsys) yn cael eu torri’n sylweddol. Mae nifer o gyrff proffesiynol wedi codi pryderon am y toriad yn nifer y gwlâu ysbyty, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Coleg Brenhinol y Meddygon, y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) a BMA Cymru.

Y gwir plaen ydy hyn: doedden ni ddim yn barod am y feirws, ac mi arweiniodd y diffyg paratoi yma at lawer mwy o bobl yn marw ac yn diodde na fyddai, o bosib, wedi digwydd fel arall. Os oes rhywun yn awyddus i wrthbrofi fy honiad, yna mae croeso i chi ymuno â'r alwad am ymchwiliad penodol i Gymru i'r ffordd yr ymdriniwyd â Covid-19.

 

Thatcher

Mae’r tri digwyddiad ofnadwy yma wedi dwysáu proses araf ddeugain mlynedd o ddadreoleiddio a phreifateiddio, gan ddatod strwythurau’r wladwriaeth a’r rhwyd diogelwch cymdeithasol oedd wedi’i blethu i gymdeithas gwledydd Prydain ers y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd. Mae’r gymdeithas bellach yn dibynnu ar fympwy’r sector preifat, sector sy’n cynnwys llawer o bobl ddyngarol wrth gwrs, ond sydd, yn y pen draw, yn atebol i fantolen ac elw.

Dyma gefndir y drychineb sy’n wynebu cymdeithas Cymru yn 2022.

 

Costau byw

Mae’r argyfwng costau byw yn gwthio llawer o’r rhai sydd ar yr ymylon i dlodi eithafol yn barod, ond yn ystod y misoedd nesa bydd cannoedd o filoedd o deuluoedd yn cael eu gwthio i gyni difrifol.

Mae prisiau ynni yn codi i'r entrychion; mae prisiau rhent yn cynyddu'n gynt nag unrhyw bryd yn ein hanes modern; mae prisiau bwyd yn codi; ac mae prisiau cynhyrchu bwyd yn codi'n aruthrol.

Ym mis Rhagfyr 2021, roedd teulu cyfartalog oedd yn talu drwy fesurydd rhagdalu yn talu £147 y mis. Ar ôl codi’r cap prisiau ynni mi fydd hyn yn cynyddu i £336 y mis – dros £10 y diwrnod – erbyn mis Rhagfyr 2022. I roi hyn yn ei gyd-destun, £257.33 y mis fyddai’r Taliad Credyd Cynhwysol i rywun sengl o dan 25 oed.

Yn ôl ystadegau BEIS 2017, mae dros 660,000 o gwsmeriaid yng Nghymru ar fesurydd rhagdalu. Dydy hi ddim yn syndod bod ardaloedd gwledig yn defnyddio mwy o drydan ar gyfartaledd nag ardaloedd trefol, efo’r defnydd cymedrig 1000KWh yn fwy ar gyfartaledd yn Ynys Môn, Gwynedd, Powys, a Cheredigion nag mewn ardaloedd fel Casnewydd, Torfaen neu Flaenau Gwent. Er hynny, mi fydd pob un o’r aelwydydd yma, lle bynnag maen nhw yng Nghymru, yn wynebu dewisiadau anodd.

Mi fues i ym manc bwyd y Bermo rai wythnosau’n ôl ac roedden nhw’n dweud eu bod nhw’n gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n gofyn am gymorth, efo teuluoedd yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyd. Roedd hyn cyn i'r cap prisiau ynni gael ei godi. Rydyn ni hefyd yn gweld mwy o bobl yn benthyg arian ar eu cerdyn credyd yn barod.

Yn sicr mi fyddwn ni’n gweld digartrefedd yn codi. Mae fy swyddfa i’n ei chael hi'n anodd ymdopi yn barod efo'r galwadau gan bobl sydd â phroblemau tai. Cyn y pandemig roedd Gwynedd yn delio efo rhyw 30 achos o ddigartrefedd y mis. Erbyn hyn mae hynny bron bum gwaith cymaint, a dim ond i un cyfeiriad mae'r niferoedd yn mynd. Efo dros ddwy fil yn y sir ar restr aros am dai, rydyn ni’n wynebu argyfwng digartrefedd na welwyd ei debyg ers degawdau.

 

Ymateb llywodraeth Prydain

Beth oedd ymateb llywodraeth Prydain? Yn ystod datganiad y Gwanwyn yr wythnos diwethaf, cafodd Canghellor Prydain Rishi Sunak gyfle i weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng yma. Ond ei ddewis, a dewis y Llywodraeth Geidwadol, oedd peidio gwneud hynny. Y flwyddyn nesa, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y byddwn ni’n gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1956-57.

Mi ddewisodd y Canghellor beidio cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, fydd yn golygu toriad enfawr mewn termau real i’r rhai mwya bregus yn ein cymdeithas sy’n dibynnu ar arian y wladwriaeth.
Roedd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr yn addo cadw’r clo triphlyg ar bensiynau’r wladwriaeth, sy’n golygu bod rhaid i bensiynau godi naill ai yn unol â chwyddiant, codiadau cyflog cyfartalog, neu 2.5%, yn dibynnu pa un sydd uchaf. Maen nhw wedi atal y system clo triphlyg yma, sy’n golygu na fydd pensiynau’n cadw i fyny efo chwyddiant, gan arwain at doriad mewn termau real. Mae pensiynwyr, ar gyfartaledd, yn gwario mwy ar fwyd a thanwydd na grwpiau oedran eraill yn ein cymdeithas.

Mi wnaeth y Ceidwadwyr hefyd addo peidio codi trethi, ac eto mi fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi.
Mae cymaint mwy y gallai llywodraeth Prydain fod wedi’i wneud. Fel nododd Sefydliad Bevan yn ddiweddar, mi allen nhw fod wedi cynyddu’r Lwfans Tai Lleol yn sylweddol gan sicrhau bod rhentwyr preifat yn gallu talu eu rhent ac o leia cadw to uwch eu pennau.

Trethi ydy dros hanner pris litr o betrol yn y garej. Mi allai’r Canghellor fod wedi torri amrywiol drethi ar brisiau petrol yn sylweddol. Yn lle hynny, ei ddewis oedd cyfyngu’r toriad i 5c y litr, gan fynd â’r prisiau’n ôl i’r hyn oedden nhw ychydig ddyddiau ynghynt.

Mae cyfradd treth ar werth ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau yn y diwydiant lletygarwch yn mynd yn ôl o 12.5% i 20%, a fydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn i’r sector lletygarwch sydd wedi diodde’n sylweddol fel mae hi yn ystod y pandemig. Mae llawer yn y sector hefyd yn weithwyr tymhorol ac ar gyflogau isel. Mi fydd perchnogion busnesau lletygarwch yn ei chael hi'n anodd cadw prisiau i lawr ar gyfer poblogaeth sy’n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd fel mae hi.
Efo cwmnïau ynni mawrion yn gwneud mwy o elw nag erioed, mae’n amlwg y dylai’r llywodraeth osod treth ffawdelw ar y cwmnïau yma – elw ddylai gael ei drethu, nid llafur y rhai sydd ar gyflogau isel.

Ym mis Chwefror, mi gyhoeddodd Plaid Cymru gynllun pum pwynt ar gamau y byddai’n bosib eu cymryd i helpu i liniaru’r gwaethaf o’r argyfwng costau byw:

1. Helpu pobl efo'u biliau ynni – drwy ehangu cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf i mewn i'r Gwanwyn
2. Cefnogi plant a phobl ifanc – drwy gyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a chynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
3. Canslo dyled – fel ôl-ddyledion treth gyngor a dyledion prydau ysgol
4. Cymorth efo tai – drwy ymestyn y Grant Caledi i Denantiaid, capio codiadau rhent tai cymdeithasol a chynyddu cyllideb y taliad disgresiwn at gostau tai a gwneud gwell gwaith hyrwyddo
5. Gwrthdroi’r toriad i Gredyd Cynhwysol – a mynd ati i sicrhau bod pwerau dros les yn cael eu datganoli

 

Ail-ddychmygu Cymru

Ond y tu hwnt i’r pethau uniongyrchol fyddai wedi bod yn bosib heddiw, mae hefyd yn bryd i ni fynd ati i ail-ddychmygu cymdeithas. Mae’n amser addas iawn i gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu byw efo urddas. Mae'n ymddangos yn rhyfedd i fi ein bod ni’n dal i drafod hyn. Mi gafodd yr egwyddor ei derbyn dros ganrif yn ôl pan gyflwynwyd Pensiwn y Wladwriaeth gan Lloyd George a’i Lywodraeth Ryddfrydol. Yn wir, mae ffermwyr yn cael rhywbeth tebyg i Incwm Sylfaenol Cyffredinol ers llofnodi Cytuniad Rhufain a chyflwyno Polisi Amaethyddol Cyffredin, a hyd heddiw mae ffermwyr yn dal i gael incwm sylfaenol i sicrhau bod eu ffermydd yn hyfyw.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio efo Llywodraeth Cymru, mi lwyddodd Plaid Cymru i sicrhau y bydd cwmni ynni cenedlaethol newydd yn cael ei ddatblygu, sef Ynni Cymru. Y nod fydd sicrhau budd i gymunedau a throi natur echdynnol y diwydiant ynni ar ei ben.

Mae'n wallgo bod cymuned fel Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog yn diodde'r cyfraddau tlodi tanwydd gwaethaf yng ngwledydd Prydain, tra bod gan gorfforaeth enfawr Engie waith storfa bwmpio hydrodrydanol 360MW uwchben y pentref ei hunan, a bod Gorsaf Ynni Hydrodrydanol Maentwrog ddim ond ychydig filltiroedd i lawr y ffordd ac yn cynhyrchu allbwn trydan blynyddol o 60.6 GWh. Parhad ydy hyn o’r economi echdynnol sy’n plagio’n cymunedau ni ers cenedlaethau ac mae’n rhaid ei wrthdroi.

Bydd y cwmni adeiladu cenedlaethol Unnos yn helpu i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai cyhoeddus, gan sicrhau bod gan bobl gartrefi ecogyfeillgar sydd wedi'u hinswleiddio'n dda i weddu i'w hanghenion. Mi ddylai tai fod yn seiliedig ar angen, nid trachwant, ac mae angen i ni weld datblygiadau sy’n ateb gofynion y gymuned.

Ac o fis Medi nesa ymlaen, mi fydd pob plentyn ysgol gynradd yn y wlad yn cael pryd ysgol maethlon am ddim, rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu amdano ers blynyddoedd, ac wedi llwyddo i’w sicrhau fel rhan o’r cytundeb cydweithio. Mi fydden ni’n awyddus i weld hyn yn mynd ymhellach, ac mae’r Blaid wedi dweud yn barod y bydd unrhyw Gyngor Sir sy’n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd hefyd, yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai eleni.

Ail-ddychmygu Cymru ydy'r dasg sydd o’n blaenau ni. Does dim rhaid i ni dderbyn mai fel hyn fydd hi arnon ni. Yn amlwg, dydy’r status quo ddim yn gweithio i ni, ac eto mae’n amlwg hefyd ei fod yn gweithio er budd y cyfoethogion. Mae’n rhaid tynnu’r system yna i lawr. Mae ganddon ni gyfle i ailddyfeisio’r genedl-wladwriaeth yng Nghymru a chreu gwladwriaeth newydd – gwladwriaeth annibynnol wedi’i chynllunio ar y cyd gan y bobl y bydd hi’n eu gwasanaethu. Annibyniaeth ydy’n cyfle ni i wneud hynny.

All hynny ddim digwydd yn ddigon buan.

 

 

 

 

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2022-05-11 10:50:08 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.