BARCLAYS YN ATAL CWSMERIAID RHAG CAEL MYNEDIAD I ARIAN TRWY’R SWYDDFA BOST

AS Plaid Cymru yn glaw ar Barclays i ‘wyrdroi penderfyniad annoeth.’

 

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Barclays i ailystyried eu penderfyniad i atal cwsmeriaid rhag tynnu arian allan yng nghanghennau Swyddfa'r Post yn ei hetholaeth o'r 8fed Ionawr 2020.

Er na fydd rhai gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid Barclays yn cael eu heffeithio - megis blaendaliadau arian parod, sieciau ac ymholiadau balans - beirniadwyd yn ffyrnig y penderfyniad i dynnu gwasanaethau tynnu arian allan o ganghennau Swyddfa'r Post.

Yn 2017, daeth y Swyddfa Bost a banciau’r Stryd Fawr I gytundeb ar draws y diwydiant gan alluogi unrhyw un sydd â chyfrif banc yn y DU i ymgymryd ag ystod o wasanaethau bancio mewn swyddfeydd post.

Roedd y cytundeb hwn yn sicrhau bod cyfleusterau bancio lleol ar gael i unigolion a busnesau mewn cymunedau lle'r oedd y gangen ddiwethaf wedi cau ei drysau.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, ‘Mae gwasanaethau bancio a ddarperir gan y Swyddfa Bost ar gyfer cwsmeriaid banciau’r stryd fawr yn achubiaeth i lawer o fy etholwyr sydd wedi gorfod delio â banciau yn cefnu ar ein trefi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.’

‘O ganlyniad i gau banciau lleol, mae Swyddfa’r Post yn chwarae rhan hanfodol mewn cynhwysiant ariannol – sy’n brysur ddod y lle mwyaf hygyrch a diogel ar gyfer delio â thrafodion ariannol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.’

‘Barclays yw’r unig fanc i gael gwared â gwasanaeth arian parod dros y cownter yng nghanghennau Swyddfa’r Post. Mae’r penderfyniad i atal cwsmeriaid rhag cael mynediad at eu harian eu hunain yn gam gwallus iawn.’

‘Ers cau canghennau lleol, mae pobl sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, Tywyn a Bermo yn ddibynnol ar Swyddfa’r Bost am eu hanghenion bancio. Bydd y rhai sy’n bancio gyda Barclays rwan yn wynebu rhwystrau pellach i gael mynediad i’w harian yn y cymunedau hyn. ’

‘Nid yn unig y mae Barclays wedi cefnu ar y cymunedau hyn trwy gau eu canghennau; mae’r penderfyniad hwn yn ergyd ddwbl i gwsmeriaid ffyddlon sydd wedi sefyll gyda’r banc er gwaethaf cael eu siomi dro ar ôl tro.’

‘Mae mynediad at arian parod am ddim mewn swyddfeydd post yn hanfodol, yn enwedig i’r henoed a’r bregus. Ni ellir disgwyl i bobl deithio’r degau o filltiroedd i’r gangen agosaf o Barclays i gael arian, yn enwedig pan nad oes cangen o fewn pellter rhesymol.’

‘Rwy’n annog Barclays i ail-feddwl a gwrthdroi’r penderfyniad hwn cyn iddo gael ei weithredu.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.